Â鶹ԼÅÄ

Onglau mewnol pedrochr

Mae’r ffaith hon yn enghraifft fwy penodol o’r hafaliad ar gyfer cyfrifo swm onglau mewnol polygon:

\(\text {Swm yr onglau mewnol = (n – 2)} ~\times~180^\circ\)

lle mae \(\text{n}\) yn cynrychioli nifer yr ochrau.

Un ffordd arall o gyfrifo swm onglau mewnol polygon yw gweld faint o drionglau mae’r siâp wedi ei wneud ohono. Mae pedrochrau wedi eu gwneud o ddau driongl. Gan ein bod yn gwybod mai 180° yw swm onglau mewnol triongl, mae’n golygu mai 360° yw swm onglau mewnol pedrochr.

Os cawn ni siâp gyda dim ond un ongl ar goll, gallwn ddefnyddio’r onglau eraill i gyfrifo beth fyddai gwerth yr ongl sydd ar goll.

Enghraifft

Canfydda ongl \({d}\).

Trapesiwm gydag onglau wedi eu labelu â (o’r chwith i’r dde) 70°, 100°, d°, 30°.

Ateb

\({d}~=~{360}~-~{100}~-~{70}~-~{30}~=~160^\circ\)

Yn aml, gallwn hefyd ddefnyddio priodweddau eraill siâp er mwyn cyfrifo onglau eraill sydd ar goll.

Defnyddia’r ffaith fod gan baralelogram ddau bâr o onglau hafal er mwyn cyfrifo’r onglau sydd ar goll yn y cwestiwn hwn.

Question

Canfydda’r onglau anhysbys.

Rhombws gydag onglau wedi eu labelu â (o’r chwith i’r dde) 50°, f° a g°.

Onglau allanol

Mae onglau allanol polygon bob amser yn adio i 360°. Ar ben hynny, mae’r onglau allanol a mewnol ar bwynt penodol bob amser yn adio i 180°.

Pedrochr gyda’r pedair ongl allanol wedi eu labelu.

Yr ongl allanol yw’r ongl sy’n cael ei ffurfio gydag ochr y siâp, pe baet ti’n ymestyn ochr y siâp i un cyfeiriad ym mhob fertig.

Enghraifft

Canfydda onglau mewnol y siâp isod.

Pedrochr gyda’r pedair ongl allanol wedi eu labelu (o’r chwith i’r dde) 120.7°, 71.4°, 56.4°, 111.5°.

Fel y gwyddon ni, mae’r ongl allanol a’r ongl fewnol yn adio i 180°, felly’r onglau sydd ar goll, gan symud yn glocwedd o’r top, yw:

  • 180 – 71.4 = 108.6°
  • 180 – 56.4 = 123.6°
  • 180 – 111.5 = 68.5°
  • 180 – 120.7 = 59.3°