Â鶹ԼÅÄ

Dehongli dosraniadau o histogramau

Gall siâp histogram ddweud pethau allweddol wrthyn ni am ddosraniad y data a gafodd eu defnyddio i greu’r histogram. Gall ddweud wrthyn ni beth yw’r berthynas rhwng y cymedr a’r canolrif, a’n galluogi hefyd i ddisgrifio gwasgariad y data.

Histogram sydd bron yn gymesur.

Mae cymedr a chanolrif y data bron yr un peth ac maen nhw o gwmpas canol y data. Mae gweddill y data wedi eu gwasgaru’n gyfartal y ddwy ochr i’r cymedr.

Histogramau sgiw

Histogramau â sgiw bositif

Mae histogram â sgiw bositif yn awgrymu bod y cymedr yn fwy na’r canolrif. Mae mwy o’r data tuag at ochr chwith y dosraniad, gyda rhai gwerthoedd mawr i’r dde.

Histogram â sgiw bositif gyda mwy o’r data tuag at yr ochr chwith.

Histogramau â sgiw negatif

Mae histogram â sgiw negatif yn awgrymu bod y cymedr yn llai na’r canolrif. Mae mwy o’r data tuag at ochr dde’r dosraniad, gyda rhai gwerthoedd bach i’r chwith.

Histogram â sgiw negatif gyda mwy o’r data tuag at yr ochr dde.