Â鶹ԼÅÄ

Y rheol AC

Weithiau rydyn ni eisiau gwybod y tebygolrwydd y bydd nifer o bethau’n digwydd, nid dim ond un.

Enghraifft

Mae gan Sarah fag sy’n cynnwys 4 pêl goch a 5 pêl werdd (cyfanswm o 9 pêl). Os byddai hi’n dewis pêl ar hap o’r bag:

Bag yn cynnwys 5 pêl werdd a 4 pêl goch
  • Beth yw’r tebygolrwydd y bydd hi’n dewis pêl goch?
  • Beth yw’r tebygolrwydd y bydd hi’n dewis pêl werdd?

Ateb

  • Er mwyn datrys hyn, rydyn ni’n sylweddoli bod yna 4 pêl goch allan o gyfanswm o 9 pêl, sy’n rhoi tebygolrwydd o \(\frac{4}{9}\).
  • Mae yna 5 pêl werdd allan o gyfanswm o 9 pêl, felly’r tebygolrwydd yw \(\frac{5}{9}\).

Question

Bag yn cynnwys 4 pêl goch, 3 pêl wen a 2 bêl felen

Mae gan Tim fag sy’n cynnwys 3 pêl wen, 2 felen a 4 goch, beth yw’r tebygolrwydd y bydd yn dewis:

  • Pêl wen?
  • Pêl felen?

Beth os byddai Tim yn dewis 2 bêl o’r bag ac rydyn ni eisiau gwybod y tebygolrwydd y bydd yn dewis, er enghraifft, pêl wen ac yna pêl goch? Yn gyntaf, mae angen i ni wybod a yw Tim yn mynd i roi’r bêl yn ôl yn y bag ar ôl ei dewis – rhaid i ni wybod hyn, oherwydd os nad yw’n rhoi’r bêl yn ôl, yna bydd ei ddewis ar gyfer y bêl gyntaf yn effeithio ar debygolrwydd y peli eraill.

Er mwyn i’r ddau ddewis fod yn ddigwyddiadau annibynnol, rhaid i’r bêl sy’n cael ei dewis yn gyntaf gael ei rhoi yn ôl. Y tebygolrwydd y bydd yn dewis pêl wen y tro cyntaf yw \(\frac{3}{9}\). Yna mae’r bêl hon yn cael ei rhoi yn ôl yn y bag. Yna’r tebygolrwydd y bydd yn dewis pêl goch fyddai \(\frac{4}{9}\). Er mwyn ateb y cwestiwn, rhaid i ni ganfod y tebygolrwydd ei fod yn dewis pêl wen yn gyntaf a phêl goch yn ail – i wneud hyn, rhaid i ni ±ô³Ü´Ç²õ¾±â€™r ddau debygolrwydd.

P(gwyn yna coch) = \(\frac{3}{9} \times \frac{4}{9} = \frac{12}{81} = \frac{4}{27}\)

Question

Infograffeg yn dangos dis a darn arian

Mae James yn mynd i daflu dis a darn arian. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd yn cael:

  • 5 ar y dis
  • 5 ar y dis a chynffon ar y darn arian
  • Eilrif a phen