Dwysedd amlder
Mae histogram yn cael ei lunio fel siart bar ond, yn aml, mae lled y barrau’n anghyfartal. Arwynebedd y bar sy’n dweud wrthyn ni beth yw’r amlder mewn histogram, nid ei uchder.
Enghraifft
Edrycha ar y tabl canlynol:
Er mwyn llunio histogram i gynrychioli’r data hyn, rhaid i ni ganfod y dwysedd amlder ar gyfer pob grŵp.
Os edrychwn ni ar y grŵp cyntaf, gwelwn fod ganddo amlder o 4 a lled o 20, gan fod 20 - 0 = 20.
\(\text{Dwysedd amlder = amlder ÷ lled y grŵp}\)
= 4 ÷ 20
= 0.2
Felly mae angen i ni lunio bar sy’n mynd o 0 i 20 ar yr echelin-\(\text{x}\) ac i fyny at 0.2 ar yr echelin-\(\text{y}\).
Gan edrych ar yr ail grŵp, mae gennyn ni amlder o 9 a lled o 15.
\(\text{Dwysedd amlder = amlder ÷ lled y grŵp}\)
= 9 ÷ 15
= 0.6
Felly mae angen i ni lunio bar sy’n mynd o 20 i 35 ar yr echelin-\(\text{x}\) ac i fyny at 0.6 ar yr echelin-\(\text{y}\).
Drwy wneud cyfrifiadau tebyg ar gyfer y grwpiau sy’n weddill, cawn:
Drwy blotio’r data hyn, bydd ein histogram yn edrych fel hyn:
Question
Llunia histogram ar gyfer y data canlynol:
Yn gyntaf, rhaid i ni gyfrifo’r dwysedd amlder ar gyfer pob grŵp trwy rannu’r amlder â lled y grŵp.
Gallwn nawr lunio ein histogram: