Â鶹ԼÅÄ

Canfod yr amlder

Weithiau bydd histogram wedi cael ei lunio’n barod i ni. Yna gallwn ddefnyddio hwn i ganfod yr amlder ar gyfer pob grŵp ac, o hynny, cyfanswm yr amlder ar gyfer y dosraniad.

Mae’r histogram hwn yn dangos nifer y llyfrau a werthwyd mewn siop lyfrau un dydd Sadwrn:

Histogram wedi ei labelu â 'Dwysedd amlder (nifer y llyfrau fesul £)' ar yr echelin-y a 'Pris (P) mewn punnoedd (£)' ar yr echelin-x.

I ganfod amlder pob grŵp, rhaid i ni luosi uchder y bar â’i led, gan fod arwynebedd pob bar yn cynrychioli’r amlder.

Ar gyfer y bar cyntaf, mae’r uchder yn 8 a’r lled yn 5 felly:

Amlder = 8 × 5 = 40

Os wnawn ni’r un peth ar gyfer pob bar, cawn:

Tabl gyda phedair rhes a dwy golofn wedi eu labelu â 'Pris (P) mewn punnoedd (£)' ac 'Amlder'.

Question

Mae’r histogram hwn yn dangos gwybodaeth am y pellter mae nifer o bobl yn taflu pêl, mewn metrau.

Canfydda amlder pob grŵp gan ddefnyddio’r histogram.

Histogram wedi ei labelu â 'Dwysedd amlder' ar yr echelin-y a 'Pellter (metrau)’ ar yr echelin-x.