鶹Լ

Difrod rhyfel

Fel y gellir disgwyl, roedd gwlad oedd wedi bod yn rhyfela o fis Medi 1939 tan fis Mai 1945 nawr yn wynebu nifer o anhawsterau.

Economaidd

  • Nid oedd economi Prydain, oedd yn dirywio, yn gallu cystadlu ag economi America.
  • Pwysau canfod swyddi i filwyr oedd wedi eu dadfyddino.
  • Roedd prinder bwyd a deunyddiau allweddol yn golygu bod rhaid i ddogni barhau.
  • Yn 1945, syrthiodd cronfeydd aur wrth gefn Prydain o £864 miliwn i £3 miliwn.
  • Roedd Prydain wedi colli 30 y cant o gyfanswm ei chyfoeth.

Cymdeithasol

  • Niferoedd ysgariadau yn codi.
  • Prinder bwyd a chiwiau mawr.

Tai

  • Roedd trefi a dinasoedd fel Abertawe a Coventry wedi cael eu bomio’n ddrwg.
  • Roedd 20 y cant o’r ysgolion/tai wedi cael eu dinistrio neu angen eu hatgyweirio.
  • Roedd miloedd wedi colli eu cartrefi ac roedd llawer yn cysgu mewn gwersylloedd y fyddin dros dro.
  • Yr angen am dai o ganlyniad i filwyr yn dychwelyd i fywyd sifilaidd.
  • Safon tai gwael megis diffyg cyflenwad dŵr.
Merched mewn dillad y 1940au yn ciwio gyda basgedi y tu allan i siop fara.
Image caption,
Ciwio y tu allan i siop fara ar Stryd Fawr Streatham, Llundain, ar 20 Gorffennaf 1946