Â鶹ԼÅÄ

Achosion eraill y Dirwasgiad

Roedd diwydiant trwm y DU wedi bod y dirywio’n raddol wrth iddo wynebu mwy o gystadleuaeth dramor. Yn dilyn chwalfa’r Rhyfel Mawr, roedd llawer o farchnadoedd traddodiadol nwyddau trwm Prydain yn chwilio am gyflenwadau rhatach o fannau eraill.

Arweiniodd hynny at ostyngiad mewn galw yn niwydiannau cloddio a dur Prydain gan wanhau economi Prydain. Roedd Streic Fawr 1926 wedi cyflymu’r cwymp, oherwydd roedd marchnadoedd newydd yn hyd yn oed mwy deniadol.

Felly, mae’n ymddangos ei bod yn rhesymol dweud bod argyfwng 1929 yn syml wedi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth.

Cystadleuaeth o dramor/marchnadoedd newydd

Roedd marchnadoedd allforio traddodiadol Prydain cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ee Canada, Awstralia a Seland Newydd, yn hytrach yn prynu:

  • dur o America
  • glo o’r Almaen
  • cotwm o India

Roedd colli’r marchnadoedd allweddol yma yn arwain at golli swyddi ym Mhrydain.

Dulliau hen-ffasiwn

Roedd gormod o ddiwydiannau trwm (hen ddiwydiannau) yn defnyddio arferion cynhyrchu hen-ffasiwn. Roedd diwydiant trwm Prydain megis glo a dur, yn defnyddio technegau . Roedd gwledydd eraill yn defnyddio peiriannau’n fwy effeithiol. Yn ystod yr 1920au yn yr UDA, ymddangosodd dulliau cynhyrchu newydd mewn nifer o ddiwydiannau. Cafodd masgynhyrchu ei ddatblygu am y tro cyntaf.

Yng nghanol y 1920au, roedd cost cynhyrchu glo yn 65c y dunnell yn America o'i gymharu â £1.56 ym Mhrydain. Yn y cyfamser roedd America, Japan a’r Almaen yn gallu tanbrisio dur Prydain gan ddefnyddio gweithfeydd cynhyrchu dur mwy effeithlon a modern. Achosodd hynny i gynhyrchu dur ddod i ben yng Nglyn Ebwy yn 1929, a chaeodd rhan o waith dur Dowlais yn 1930, gyda 3,000 o weithwyr dur yn colli eu swyddi.

Wrth i’r galw brinhau, roedd diwydiannau traddodiadol hŷn yn dirywio a gweithwyr yn colli eu swyddi. Ond, roedd y diwydiannau traddodiadol hŷn yma eisoes wedi bod trwy gyfnod o ddirywio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Tollau mewnforio

Ceisiodd llywodraethau Prydain annog masnach rydd rhwng gwledydd yn y 1920au, ond roedd nifer o wledydd eraill, yn arbennig America, yn defnyddio tariffau er mwyn diogelu eu diwydiannau eu hunain. Yn dilyn Cwymp Wall Street, cododd tollau mewnforio ar draws y byd, a bu gostyngiad sylweddol mewn masnach ryngwladol. Rhwng 1929 a 1931 hanerodd allforion o Brydain. Cwympodd y galw am longau i gludo nwyddau hefyd yn ddramatig, ac arweiniodd hynny at lai o alw eto am lo a dur.

Diweithdra

Bu twf mawr mewn diweithdra, o 6 y cant o’r boblogaeth yn 1929 i 15 y cant yn 1932. Roedd hynny’n golygu nad oedd gan 3 miliwn o bobl gyflog ac nad oedden nhw’n gallu prynu nwyddau. Arweiniodd hynny at lai o alw eto am nwyddau o Brydain, achosodd i fwy o fusnesau fethdalu gan greu mwy o ddiweithdra.

Cynilion

Roedd hyd yn oed y rhai oedd yn dal mewn swyddi yn fwy gofalus o ran gwario a buddsoddi oherwydd yr ansicrwydd economaidd. Achosodd hynny drafferthion i fwy o fusnesau.