鶹Լ

Pwy oedd y KKK a beth wnaethon nhw?

Cynnydd a chwymp yn nifer aelodaeth y KKK rhwng 1915 a 1928.
Figure caption,
Methiannau allweddol swyddogion y llywodraeth mewn perthynas â gweithgaredd KKK

Grŵp hiliol oedd hwn wedi'i sefydlu gan rai oedd yn credu bod pobl wyn yn well ac a oedd am weld pobl dduon yn parhau i fod yn bobl gaeth. Dechreuodd yn nhaleithiau'r de ar ddiwedd Rhyfel Cartref America yn 1865.

Cafodd y mudiad ei adfywio yn 1915 gan William J Simmons yn dilyn rhyddhau'r ffilm Birth of a Nation. Tyfodd yn gyflym ac erbyn 1921 roedd ganddo dros 100,000 o aelodau. Erbyn canol y 1920au roedd y mudiad ar ei gryfaf, gyda 5 miliwn o aelodau.

Protestaniaid Gwyn Eingl Sacsonaidd () yn unig oedd yn cael ymuno â'r Klan. Roedd y KKK yn gwahaniaethu yn erbyn pobl dduon, Pabyddion, Iddewon a Mecsicanwyr.

Roedd aelodau'r Klan yn aml yn lladd pobl dduon drwy eu crogi heb brawf (lynsio) - . Weithiau byddai'r heddlu lleol yn methu amddiffyn y dioddefwyr a hyd yn oed yn cymryd rhan yn y lladd.

Ni fyddai'r rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dwyn gerbron llys yn aml iawn, a gwyddai aelodau'r Klan na fyddai eu ffrindiau yn y llysoedd yn eu cael yn euog.

Roedd hi'n anodd i'r llywodraeth newid agweddau'r bobl wyn yn y de ac roedd gan y gwleidyddion ofn colli pleidleisiau.

Yn 1925 cafwyd David Stephenson, Grand Dragon o Klan Indiana, yn euog o dreisio ac achosi anafiadau difrifol i fenyw ar drên yn Chicago.

Roedd aelodaeth y Klan wedi lleihau erbyn 1928. Ychydig o gannoedd o filoedd o aelodau oedd gan y mudiad erbyn hynny.