鶹Լ

Cymunedau du a lleiafrifoedd hiliol eraill

Ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd mwy o ragfarn hiliol a drwgdeimlad tuag at y rhai nad oedden nhw'n Americanwyr 'go iawn'.

  • Yn 1900 roedd 12 miliwn o bobl dduon yn byw yn UDA, a 75 y cant ohonyn nhw'n byw yn y de.
  • Er bod caethwasiaeth wedi'i ddiddymu yn y 1860au, roedd pobl gwyn yn rheoli’r taleithiau deheuol drwy ddefnyddio i 'r boblogaeth ddu a gwahaniaethu yn eu herbyn. Roedd y deddfau hyn yn eu hatal rhag pleidleisio, cael addysg dda a swyddi da.
  • Nid oedd mwyafrif yr Americanwyr duon yn llwyddo i fanteisio ar economi lewyrchus y 1920au. Roedd hyn yn arbennig o wir yn nhaleithiau'r de gan mai amaethyddiaeth oedd sail yr economi yno, ac fe gwympodd prisiau cnydau gydol y 1920au.

Mudo i'r gogledd a'r gorllewin

Roedd datblygiadau diwydiannol wedi creu galw am nwyddau a weithgynhyrchwyd a chrëwyd swyddi yn ninasoedd diwydiannol y gogledd.

Rhwng 1916-1920 aeth bron i 1 miliwn o bobl dduon i'r gogledd yn ystod y Mudo Mawr i ddinasoedd fel Chicago, Efrog Newydd a Detroit i chwilio am waith. Er nad oedd unrhyw gyfreithiau Jim Crow, roedd Americanwyr duon yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yn y dinasoedd gogleddol. Oherwydd cyflogau isel roedden nhw’n byw mewn ardaloedd tlawd, fel Harlem yn Efrog Newydd, o'r enw getoau.

Yn 1919 gwelwyd terfysgoedd mewn 20 o ddinasoedd yr Unol Daleithiau wrth i densiwn hiliol rhwng pobl ddu a gwyn gynyddu. Dyma oedd un o'r ffactorau a ysgogodd y cynnydd yn nifer aelodau’r Ku Klux Klan (KKK).