鶹Լ

Agoriad y cyflwyniad

Yn ogystal ag agor yn effeithiol, dyma bwyntiau eraill i ti eu hystyried wrth fynd ati i ddatblygu dy ddarn:

  • defnyddio lluniau drwy dechnoleg gwybodaeth neu sioe sleidiau
  • cofia beidio defnyddio gormod o luniau neu ni fydd y gynulleidfa'n gallu canolbwyntio ar yr hyn rwyt ti'n ei ddweud
  • cyflymder – mae'n bwysig peidio â siarad yn rhy gyflym
  • siarad yn glir a dim mwmian
  • iaith addas – heb fratiaith, rhegfeydd na geiriau Saesneg
  • iaith greadigol – ansoddeiriau da, cyffelybiaethau, trosiadau ayyb
  • siarad gyda dy gynulleidfa, eu cyfarch ar y dechrau a diolch iddyn nhw am wrando ar ddiwedd y darn
  • Amseru dy ddarn i sicrhau nad yw'n rhy hir neu'n rhy fyr.
  • Cloi yn effeithiol er mwyn i'r gynulleidfa dy gofio di a dy ddarn.
  • Ymarfer yn gyson o flaen ffrind neu aelod o dy deulu cyn gwneud y cyflwyniad.

Rhaid cofio mai tasg cyflwyno gwybodaeth yw hon ac nid mynegi barn (yn yr ail dasg y byddi di’n gwneud hynny) er bod disgwyl i ti ddadansoddi’r pwnc. Rhaid i ti ddewis y pwnc yn ofalus felly. Hefyd naturioldeb sy’n bwysig ac nid dysgu ar y cof na darllen.

More guides on this topic