鶹Լ

Paratoi ar gyfer y cyflwyniad

Wrth gwblhau dy gyflwyniad llafar unigol rhaid cofio mai’r hyn sy’n bwysig yw dy bersonoliaeth, ymchwil manwl a chynnal sylw’r gynulleidfa. Mae’n bwysig felly dy fod yn paratoi dy waith yn ofalus er mwyn i ti fedru cyflwyno’r wybodaeth yn ddiddorol ac yn naturiol i’r gynulleidfa.

Bydd cyfle i ti ennill 15 y cant o dy radd derfynol wrth gwblhau’r dasg hon, ac er mwyn llwyddo bydd disgwyl i ti berfformio am bump i saith munud.

Gofynna i ti dy hun:

  • am beth fydd dy gyflwyniad?
  • i bwy fyddi di’n cyflwyno?
  • pam wyt ti wedi dewis y pwnc?
  • beth sy’n bwysig am y pwnc?
  • pam ddylai’r gynulleidfa wrando?

Cofia, bydd angen i ti hefyd ymateb i unrhyw gwestiynau gan dy gynulleidfa – felly bydd yn barod.

Rhaid i dy gyflwyniad fod yn seiliedig ar dy ymchwil i un o’r pynciau isod:

  • Cymru
  • hamdden
  • byd gwaith
  • technoleg
  • dinasyddiaeth

Wrth baratoi dy gyflwyniad, bydd rhaid i ti rannu dy gyflwyniad yn agweddau gwahanol er mwyn cyflwyno dy wybodaeth yn glir a threfnus. Dylet ddewis pwnc sydd â digon o ffeithiau diddorol ac sydd o ddiddordeb i ti. Bydd hyn yn ei wneud yn haws i ti ddysgu dy waith ac mae’n bosibl i ti rannu profiadau personol os ydyn nhw'n berthnasol i dy bwnc.

Er mwyn ennill y marciau uchaf, bydd disgwyl i ti ddadansoddi dy wybodaeth, ee “Mae boddi Capel Celyn wedi cael effaith ar genedlaetholdeb yng Nghymru...” neu “ Mae’r Gemau Olympaidd yn Rio wedi llwyddo i hybu economi’r ddinas gan...”

Gary Slaymaker yn cyflwyno gwybodaeth am ffilmiau arswyd

Gwranda ar yr adolygydd ffilmiau a'r comedïwr yn trafod ei hoff ffilmiau arswyd. Ydy e'n glip llwyddiannus yn dy farn di? Beth wyt ti'n hoffi neu ddim yn hoffi am y darn?

More guides on this topic