鶹Լ

Arddull cyflwyno gwybodaeth ar lafar

Mae’n bwysig bod agoriad dy gyflwyniad llafar yn ddiddorol ac yn denu sylw dy gynulleidfa’n syth. Cyn i ti gyflwyno gwybodaeth am dy bwnc, rhaid i ti’n gyntaf esbonio dy fwriad.

Edrycha ar y gwahanol enghreifftiau hyn a sylwa ar y gwahanol effaith mae’r tair yn ei chael.

Cyflwyniad: enghraifft un

"Gyfeillion, dw i'n mynd i gyflwyno gwybodaeth am ardal Abertawe. Yr agweddau fydda i'n eu trafod fydd ffeithiau am hanes y ddinas ac enwogion sy'n gysylltiedig â'r ardal fel Michael Sheen, Catherine Zeta Jones a Dylan Thomas."

Sylwadau am enghraifft un

Mae'r darn uchod yn cyfarch y gynulleidfa, yn rhestru popeth yn drefnus ac yn cyflwyno'r testun yn effeithiol.

Nid ydyn ni'n cael awgrym o sut mae'r person sy’n cyflwyno’r wybodaeth yn teimlo am Abertawe. Ydyn nhw'n hoff iawn o'r ddinas, ai dyma'u cynefin nhw?

Mae'r elfen bersonol bob amser yn helpu wrth gyflwyno gwybodaeth ar lafar. Mae gan y gynulleidfa ddiddordeb ynddot ti fel person ac mae dangos dy bersonoliaeth wrth gyflwyno'r darn yn effeithiol iawn.

Cyflwyniad: enghraifft dau

"Gyfeillion, pam fod merched yn dal i ennill llai na dynion yn y gweithle a ninnau bellach yn yr 21ain ganrif? Dw i am drafod gyda chi heddiw pam fod merched sydd newydd raddio yn ennill miloedd yn llai na dynion sydd newydd raddio, gyda'r ystadegau diweddaraf a'r rhesymau yn fy marn i am yr hwn."

Sylwadau am enghraifft dau

Mae'r darn uchod yn dechrau gyda chwestiwn sy'n mynd i apelio at chwilfrydedd y gynulleidfa ac yn dangos cryfder teimladau'r person tuag at y pwnc. Mae hefyd yn cyfarch y gynulleidfa, yn rhestru cynnwys y darn yn glir ac yn cynnig tystiolaeth dros ei safbwynt ac yn cysylltu â'r gynulleidfa.

Cyflwyniad: enghraifft tri

"Dw i am drafod pam fod cyfryngau cymdeithasol yn beryglus i bobl ifanc. Maen nhw'n achosi bwlio a phroblemau cymdeithasol eraill."

Sylwadau am enghraifft tri

Mae'r darn hwn yn wan am nad yw'n cyflwyno'r testun yn effeithiol nac yn cyfarch y gynulleidfa. Does dim ymgais i ddiddori'r gynulleidfa gyda'r frawddeg agoriadol. Nid yw'r agoriad yn rhestru cynnwys y darn yn ei gyfanrwydd, mae'n ailadrodd y gair 'cymdeithasol' ac nid yw'n cysylltu â'r gynulleidfa.

More guides on this topic