Gwaith ymchwil
Bydd llwyddiant dy gyflwyniad yn ddibynnol ar safon dy waith ymchwil a’r modd yr wyt yn ei drafod a’i gyflwyno.
Lle mae dechrau?
Os wyt wedi dewis pwnc sydd o ddiddordeb i ti neu bwnc rwyt ti’n gwybod llawer amdano’n barod yna bydd dy brofiad personol yn lle da i ddechrau.
Beth wyt ti’n ei wybod eisoes am dy bwnc?
Oes modd i ti ddefnyddio dy wybodaeth flaenorol wrth benderfynu ar agweddau addas? Beth am i ti holi rhywun rwyt ti’n ei adnabod am wybodaeth benodol?