麻豆约拍

Adeileddau cofalent enfawr

Mae adeileddau cofalent enfawr yn cynnwys llawer iawn o , a yn cysylltu pob un 芒鈥檙 atomau cyfagos. Mae鈥檙 atomau fel arfer wedi鈥檜 trefnu mewn rheolaidd enfawr 鈥 adeileddau eithriadol o gryf oherwydd bod llawer o fondiau ynddynt.

Mae鈥檙 graffig yn dangos adeileddau moleciwlaidd graffit a diemwnt (dau carbon).

Modelau moleciwlaidd 3D o graffit a diemwnt.
Figure caption,
Graffit a diemwnt

Priodweddau adeileddau cofalent enfawr

  • Ymdoddbwyntiau uchel iawn 鈥 mae hyn oherwydd bod angen torri llawer o fondiau cofalent cryf. Mae ymdoddbwynt graffit, er enghraifft, dros 3,600掳C.
  • Dargludedd trydanol newidiol 鈥 dydy diemwnt ddim yn trydan, ond mae graffit yn cynnwys rhydd felly mae鈥檔 gallu dargludo trydan. Mae yn lled-ddargludydd 鈥 mae hanner ffordd rhwng bod yn sylwedd dargludol ac anddargludol.

Graffit

Mae graffit yn fath o garbon lle mae鈥檙 atomau carbon yn ffurfio bondiau cofalent 芒 thri atom carbon arall. Mae hyn yn golygu bod gan bob atom carbon electron 鈥榮b芒r鈥 (gan fod gan garbon bedwar electron allanol) sydd yn rhwng haenau o atomau carbon. Mae鈥檙 haenau hyn yn gallu llithro dros ei gilydd, felly mae graffit yn llawer meddalach na diemwnt. Rydyn ni鈥檔 ei ddefnyddio mewn pensiliau ac fel . Mae graffit yn dargludo trydan oherwydd bod yr electronau 鈥榮b芒r鈥 wedi鈥檜 dadleoli rhwng yr haenau. Mae鈥檙 dargludedd hwn yn gwneud graffit yn ddefnyddiol fel electrodau ar gyfer .

Fodd bynnag, mae gan graffit ymdoddbwynt a berwbwynt uchel iawn oherwydd mae angen llawer o egni gwres i dorri鈥檙 bondiau cofalent cryf sy鈥檔 dal yr atomau carbon at ei gilydd yn yr haenau.

Diemwnt

Mae diemwnt yn fath o garbon lle mae pob atom carbon wedi鈥檌 gysylltu 芒 phedwar atom carbon arall, gan ffurfio adeiledd cofalent enfawr. O ganlyniad, mae diemwnt yn galed iawn ac mae ganddo ymdoddbwynt uchel iawn. Mae hyn yn esbonio pam rydyn ni鈥檔 ei ddefnyddio mewn offer torri. Dydy diemwnt ddim yn dargludo trydan oherwydd does dim electronau dadleoledig yn yr adeiledd.

Mae gan silica (neu silicon deuocsid), sydd i鈥檞 gael mewn tywod, adeiledd tebyg i ddiemwnt, felly mae ei briodweddau鈥檔 debyg i ddiemwnt. Mae鈥檔 galed ac mae ganddo ymdoddbwynt uchel, ond mae鈥檔 cynnwys atomau silicon ac ocsigen, yn hytrach nag atomau carbon.