Bondio ïonig
Pan mae metelau’n adweithio ag anfetelau, mae electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. yn cael eu trosglwyddo o’r atomau metel i’r atomau anfetel, gan ffurfio ïDzԲ. Enw’r math hwn o gyfansoddyn yw cyfansoddyn ïonig.
Mae adweithiau rhwng metelau ac anfetelau’n cynnwys:
- sodiwm + clorin → sodiwm clorid
- magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
- calsiwm + clorin → calsiwm clorid
- lithiwm + ocsigen → lithiwm ocsid
Yn yr adweithiau hyn i gyd, mae’r atomau metel yn rhoi electronau i’r atomau anfetel. Mae’r atomau metel yn troi’n ïDzԲ positif ac mae’r atomau anfetel yn troi’n ïDzԲ negatif.
Mae grym atyniad grym electrostatigGrym atynnu rhwng gronynnau â gwefrau dirgroes. rhwng ïDzԲ â gwefrau dirgroes – bond ïonig yw hyn.
Mae’r sioe sleidiau’n dangos bondiau ïonig yn ffurfio mewn sodiwm clorid, magnesiwm ocsid, calsiwm clorid a lithiwm clorid.
1 of 8