Gronynnau nano-raddfa
Gronyn nano-raddfa yw gronyn o sylwedd â diamedr rhwng 1 – 100 nm (1 nm = 1 nanometr = 1 × 10–9m, sef un biliynfed rhan o fetr). Mae gan ronynnau nano-raddfa briodweddau gwahanol iawn i ffurf ‘normal’ y sylweddau. Er enghraifft, mae gronynnau arian nano-raddfa yn dda iawn am ladd bacteria a firysau.
Rydyn ni’n defnyddio nano-arian:
- mewn gorchuddion ar glwyfau i atal haint
- i orchuddio tu mewn sanau a thu mewn oergelloedd i ladd y bacteria sy’n achosi arogleuon drwg
- mewn diaroglyddion i ladd bacteria sy’n achosi arogleuon drwg
- i ddiheintio cyflenwadau dŵr ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol
Does gan arian swmp ddim o’r priodweddau hyn. Mae’n fetel sgleiniog sydd ddim yn cyrydu, felly rydyn ni’n ei ddefnyddio mewn gemwaith yn bennaf.
Gallwn ni ddefnyddio gronynnau nano-raddfa titaniwm deuocsid mewn eli haul i atal golau uwchfioled niweidiol. Mae hyn yn helpu i atal llosg haul a chanser y croen. Mae’r gronynnau hyn mor fach nes nad ydyn ni’n gallu eu gweld nhw, felly mae’r eli haul yn anweladwy. Gallwn ni hefyd ddefnyddio gronynnau nano-raddfa titaniwm deuocsid mewn ffenestri sy’n eu glanhau eu hunain, oherwydd maen nhw’n gallu dadelfennu’r baw ar arwyneb y ffenestri.