Atomau a moleciwlau
Mae’r holl fater yn y bydysawd wedi’i wneud o wahanol ronynnau. Wrth astudio cemeg, mae angen i ni wybod am ddau brif fath o ronyn.
Atom
- Y gronyn lleiaf mewn elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig..
- Yn wreiddiol, roedd gwyddonwyr yn meddwl ei bod hi’n amhosibl hollti atomau, ond dydy hynny ddim yn wir.
Moleciwl
- Clwstwr o atomau anfetel sydd wedi bondio’n gemegol â’i gilydd.
- bond cofalentBond rhwng atomau sy’n ffurfio pan mae atomau’n rhannu electronau i gael plisgyn allanol llawn o electronau. sy’n uno’r atomau mewn moleciwl.
- Mae’r atomau bob amser yn uno mewn cymarebau penodol, ac mae gan foleciwlau fformiwla benodol, er enghraifft H2O neu N2.
- Mae yna foleciwlau o cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. (fel CH4) a moleciwlau o elfennau (fel O2).
Pan mae atomau a moleciwlau’n colli neu’n ennill electronau, maen nhw’n ffurfio ïonau.
ÏDz
Gronyn â gwefr drydanol yw ïon, ac mae’n ffurfio wrth i atom neu foleciwl golli neu ennill electronau.
- Pan mae atom/moleciwl yn colli electron(au), mae’n ffurfio ïon â gwefr bositif.
- Pan mae atom/moleciwl yn ennill electron(au), mae’n ffurfio ïon â gwefr negatif.
- Mae maint y wefr ar yr ïon yn hafal i nifer yr electronau sydd wedi’u colli neu eu hennill.