鶹Լ

Fformiwlâu empirig

Fformiwla empirig ’r gymhareb rhifau cyfan symlaf ’r o bob yn y cyfansoddyn.

Rydyn ni’n ei ganfod drwy ddefnyddio data o arbrofion, felly mae’n empirig.

Er enghraifft, fformiwla foleciwlaidd glwcos yw C6H12O6 ond y fformiwla empirig yw CH2O. Mae hyn oherwydd ein bod ni’n gallu rhannu pob rhif yn C6H12O6 â 6 i wneud cymhareb rhifau cyfan symlach.

Ar y llaw arall, gallai cyfansoddyn â’r fformiwla empirig CH2 fod â fformiwla foleciwlaidd o C2H4, C3H6, C4H8 neu hyd yn oed C13H26.

Galli di ddefnyddio gwybodaeth am y sy’n adweithio i gyfrifo fformiwla cyfansoddyn.

Enghraifft

Mae 3.2 g o sylffwr yn adweithio ag ocsigen i gynhyrchu 6.4 g o sylffwr ocsid. Beth yw fformiwla’r ocsid?

I wneud y cyfrifiad, bydd angen i ti ddefnyddi’r ffaith bod Ar (à atom cymharol) sylffwr, S = 32, ac Ar ocsigen, O = 16.

CamGweithredCanlyniad
UnYsgrifennu symbolau’r elfennauSO
DauYsgrifennu’r masau3.2 g6.4 g – 3.2 g = 3.2 g
TriYsgrifennu’r gwerthoedd Ar3216
PedwarRhannu’r masau ag Ar3.2 ÷ 32 = 0.13.2 ÷ 16 = 0.2
PumpRhannu â’r rhif lleiaf0.1 ÷ 0.1 = 10.2 ÷ 0.1 = 2
ChwechYsgrifennu’r fformiwlaSO2
CamUn
GweithredYsgrifennu symbolau’r elfennau
CanlyniadS
O
CamDau
GweithredYsgrifennu’r masau
Canlyniad3.2 g
6.4 g – 3.2 g = 3.2 g
CamTri
GweithredYsgrifennu’r gwerthoedd Ar
Canlyniad32
16
CamPedwar
GweithredRhannu’r masau ag Ar
Canlyniad3.2 ÷ 32 = 0.1
3.2 ÷ 16 = 0.2
CamPump
GweithredRhannu â’r rhif lleiaf
Canlyniad0.1 ÷ 0.1 = 1
0.2 ÷ 0.1 = 2
CamChwech
GweithredYsgrifennu’r fformiwla
CanlyniadSO2

Mae gweithred cam pump fel arfer yn rhoi’r gymhareb rhifau cyfan symlaf ar unwaith. Weithiau, fydd hyn ddim yn digwydd – efallai y byddi di’n cael 1 ac 1.5. Yn yr enghraifft hon, byddet ti’n lluosi’r ddau rif â 2, i roi 2 a 3 (yn lle talgrynnu 1.5 i fyny i 2).

Trawsnewid y fformiwla empirig yn fformiwla foleciwlaidd

O’r fformiwla empirig, galli di gyfrif’r fformiwla foleciwlaidd os wyt ti’n gwybod (Mr) y cyfansoddyn.

Adio masau atomig yr atomau yn y fformiwla empirig.

Er enghraifft, fformiwla empirig hydrocarbon yw CH2 ’i Mr yw 42.

  • à yr atomau yn y fformiwla empirig yw 14
  • 42 ÷ 14 = 3
  • felly mae angen i ti luosi’r rhifau yn y fformiwla empirig â 3

Felly, fformiwla foleciwlaidd yr hydrocarbon yw C3H6.