Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
Elfennau, cyfansoddion a fformiwlâu
Golwg gyffredinol ar y diffiniadau o wahanol fathau o gemegion, sut gallwn ni gynrychioli cemegion mewn hafaliadau cemegol, sut gallwn ni wahanu cemegion, a nifer o gyfrifiadau pwysig sy'n ymwneud â fformiwlâu cemegol.
Gwahanu cymysgeddau
Rydyn ni’n defnyddio gwahanol dechnegau arbrofol i wahanu amrywiaeth o gymysgeddau i roi sylweddau unigol. Hefyd, mae nifer o ffyrdd o ddweud y gwahaniaeth rhwng newidiadau ffisegol a chemegol.
Hafaliadau a chyfrifiadau cemegol
Rydyn ni'n defnyddio hafaliadau geiriau a symbolau i ddangos gwybodaeth am adweithiau. Mae cadwraeth màs yn digwydd mewn adweithiau cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio mewn adweithiau cemegol. Gan ein bod ni'n gwybod masau cymharol pob math o atom, gallwn ni ragfynegi masau'r cynhyrchion a'r adweithyddion mewn adweithiau cemegol.
Cyfrifiadau pellach [Haen uwch yn unig]
Technegau cyfrifo ar gyfer yr haen uwch i ganfod fformiwlâu empirig a moleciwlaidd sylwedd, masau sylwedd gofynnol mewn adwaith a chyfrifiadau’n ymwneud â molau.