鶹Լ

Treigladau a chenedl enwau

Fel yr ydyn ni'n gwybod, mae treiglad meddal yn dilyn y fannod:

  • y
  • yr
  • 'r

Ond mae yna reolau eraill hefyd am dreiglo.

  • Enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal ar ôl y gair 'un', ee un gadair (ag eithrio geiriau sy'n dechrau gyda 'll' neu 'rh').
  • Enw gwrywaidd yn treiglo'n feddal ar ôl y gair 'dau', ee dau gi.
  • Enw benywaidd yn treiglo'n feddal ar ôl y gair 'dwy', ee dwy gath.
  • Enw gwrywaidd yn treiglo'n llaes ar ôl 'tri', ee tri pheth.
  • Angen defnyddio'r ffurf 'tair' o flaen enw benywaidd, ee tair gwraig.
  • Angen denfyddio 'pedwar' o flaen enw gwrywaidd, ee pedwar dyn ond 'pedair' o flaen enw benywaidd, ee pedair iâr.

Ymarfer

Question

Edrycha ar y brawddegau isod a phenderfyna pa rai sy'n gywir a pha rai sy'n anghywir.

  • Dywedodd Siriol fod ganddi ddau gyfrinach i'w rhannu.
  • Darllen y linell gyntaf.
  • Mae gennyf dau gath a dwy gi.
  • Mae ganddi ddau blentyn.
  • Dim ond un goeden afalau sydd yn yr ardd.
  • Dere â thri peth gyda thi.