鶹Լ

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm a’r Criw Cynghori’n rhannu syniadau a thechnegau i dy helpu di i gadw’n cŵl ac i leihau’r straen wrth i ti adolygu.

Fideo: Sut i gadw’n cŵl

Tips y tîm ar gadw’n cŵl

Sara “Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n mynd yn drech, paid â’i ymladd. Anadla’n araf ac yn ddwfn, a chanolbwyntia ar ddelweddau cadarnhaol ac ymlaciol. Gwnaiff y panig basio.”

Beca “Mae cael brêc bob hyn a hyn, oddi wrth unrhyw beth sy’n gallu achosi stress, yn dangos dy fod yn gwrando ar beth mae dy gorff ei angen. Pan mae dy gorff yn anfon neges atat i ddweud ei fod yn llwglyd neu’n sychedig, ti’n gwrando arno. Gwna’r un peth pan mae’n dweud wrthot ei fod ‘dan straen.”

Manon “Cofia gael hoe pan mae angen, mae’n helpu pan ti’n teimlo dan straen.”

Jona “ٷɾ‵ ‘stress bot,’ so mae pethau fel anadlu neu meditato, tua 5-10 munud bob dydd yn amazing ar gyfer fy iechyd meddwl a stress.”

Eluned “Mae mor hawdd cwympo mewn i’r arfer o weithio a gweithio, ond mae hynny’n gallu arwain at or-straen. Mae ymlacio yr un mor bwysig â gweithio.”

Nel “Mae rhedeg yn ffordd o wneud i fi deimlo’n lot mwy ymlaciol mewn diwrnod, ac mae’n gwneud fi’n hapus a ‘mod i wedi llwyddo i wneud rhywbeth.”

Jack “ٷɾ‵ dysgu karate pedwar diwrnod yr wythnos ar ôl ysgol a bore Sadwrn. Mae’r amser yma a’r ymarfer corff wir yn bwysig i fi gymryd brêc o waith ysgol. Tydi gwaith ysgol ddim hyd yn oed yn dod i fy meddwl pan dwi'n gwneud karate, sy'n help mawr i ymlacio'r ymennydd.”

Jac “Un ffordd dda i fi o reoli stress yw bod yng nghwmni fy ffrindiau a chwarae pêl-droed, gan ei fod y gwrthwyneb i eistedd yn unig ar bwys desg”.

Dr Rob “Dosbartha dy adolygu dros gyfnod o wythnos neu wythnosau. Paid â gwasgu popeth mewn i un noson.”

Jeia "Cyn mynd i’r gwely dwi’n hoffi nodi’r holl dasgau dwi wedi eu cwblhau y diwrnod hwnnw. Mae’n helpu fi i gadw’n bositif. Dwi hefyd yn hoffi nodi’r holl dasgau dwi eisiau eu cwblhau’r diwrnod nesaf – mae’n helpu fi i gysgu.”

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar 鶹Լ Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Astudio ac ymlacio

Cyngor ar sut i gael y cydbwysedd cywir rhwng astudio ac ymlacio.

Astudio ac ymlacio

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd

Cyngor ar sut i ddelio gyda phethau’n mynd o’i le yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr

Tips, cyngor a syniadau ar sut i wneud y gorau o amser adolygu prin.

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr