鶹Լ

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn rhannu syniadau am sut i adolygu pan mae amser yn brin.

Fideo: Wyt ti ‘di gadael hi’n rhy hwyr?

Tips y tîm ar gyfer adolygu pan mae amser yn brin

Jack “Y peth cyntaf, ydy peidio panicio. Does ‘na ddim pwynt gwneud hynna, does ‘na ddim pwynt mynd trwy bob dim, meddwl dros bob dim, beth faset ti wedi gallu gwneud yn wahanol. Meddylia beth wyt ti’n gallu gwneud efo’r amser sydd ar ôl.”

Lois “Os ydy amser yn brin, edrycha ar y cynllun marcio ac adolyga’r adrannau sydd efo’r marciau uchaf.”

Manon “Os yw amser yn brin, dwi’n dueddol o wrando ar glipiau sain, yn enwedig ar gyfer pynciau megis Cymraeg, Drama, a Saesneg Llên. Mae hwn lot cyflymach na darllen.”

Jeia "Tria dechneg o’r enw blurting. Ti’n nodi’r holl wybodaeth ti’n gallu ei chofio ar un darn o bapur. Weithiau fe wnei di sylweddoli dy fod yn cofio mwy na ti’n feddwl.”

Mari “Y peth gorau i’w wneud yw i fod yn onest. Siarad â’r athrawes a gofyn os bydd modd aros ‘nôl a chael cwpl o wersi ychwanegol yn ystod amser cinio. Bydd hynna’n siŵr o dy helpu di.”

Eluned “Y cyfan alli di ei wneud yw dy orau.”

Cyngor Sara

Pan mae amser adolygu’n brin, mae’n naturiol i ti boeni a mynd i banig. Dyma gyngor Sara Jones, sy’n gydlynydd Lles ac Iechyd Meddwl mewn ysgol uwchradd, am sut i adnabod a delio gyda straen neu 'stress'.

Rhai o arwyddion straen yw pen tost, tensiwn yn y cyhyrau a dy galon yn curo’n gyflymach. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, rho gynnig ar y technegau a’r syniadau hyn i helpu i leddfu straen:

  • anadla’n araf ac yn ddwfn
  • cymera fath cynnes
  • gwranda ar gerddoriaeth leddfol
  • gwna ymarferion meddwlgarwch
  • ysgrifenna am dy deimladau
  • cymera seibiant

Os wyt ti'n teimlo bod pethau'n mynd yn ormod, paid â'i ymladd. Anadla'n araf ac yn ddwfn a chanolbwyntia ar ddelweddau cadarnhaol ac ymlaciol – bydd y panig yn pasio.

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar 鶹Լ Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu: Tips adolygu gwych

Cyngor call gan bobl ifanc sy’n gwybod beth yw beth.

Adolygu: Tips adolygu gwych

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau

Adolygu: Tips gan arbenigwr

Cyngor gan arbenigwr ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Tips gan arbenigwr