麻豆约拍

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu鈥檔 gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid 芒 phoeni, mae t卯m Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae鈥檙 t卯m a鈥檔 harbenigwyr yn rhannu rhagor o gyngor adolygu.

Fideo: Tips adolygu

Cyngor gorau鈥檙 t卯m

Jac 鈥淢ae esbonio gwaith i ffrind a gweithio gyda rhywun arall yn ffordd dda o gael y wybodaeth i sticio yn fy mhen i.鈥

Manon 鈥淎r gyfer pwnc fel Cerddoriaeth, dwi鈥檔 mwynhau gwrando ar y gwaith gosod a chlywed y technegau. Ond ar gyfer pwnc fel Cymraeg, dwi鈥檔 mwynhau creu mapiau meddwl gydag isdeitlau gwahanol.鈥

Jeia 鈥淒wi鈥檔 creu cardiau fflach ar gyfer Almaeneg. Mae鈥檔 ffordd hawdd o ddysgu geirfa newydd.鈥

Eluned 鈥淒wi鈥檔 gwrando ar gerddoriaeth Ffrangeg pan dwi鈥檔 adolygu Ffrangeg achos mae鈥檔 gwneud y profiad yn fwy o hwyl.鈥

Mari 鈥淒wi'n hoff o fapiau meddwl. Maen nhw'n ffordd dda o grynhoi gwybodaeth berthnasol i un lle. Maen nhw hefyd yn hawdd i鈥檞 cofio gan mai dim ond un darn o bapur sydd.鈥

Steffan 鈥淒wi鈥檔 tueddu i recordio fy hun yn siarad. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn. Dwi鈥檔 tueddu i wneud y system yma i gofio rhyw ddarn o waith penodol sydd angen cael ei ddysgu, ac mae hyn hefyd yn gweithio鈥檔 well i mi na darllen darn penodol o waith.鈥

Jack 鈥淎r gyfer Saesneg Ll锚n, dwi鈥檔 ysgrifennu cerdyn fflach yr un ar gyfer y prif gymeriadau a鈥檙 prif them芒u, efo sawl dyfyniad arnyn nhw. Os fyswn i鈥檔 gallu, byswn i鈥檔 defnyddio dyfyniadau sy鈥檔 gallu cael eu defnyddio ar gyfer sawl cymeriad a sawl thema 鈥 mae 鈥榥a lai i鈥檞 gofio wedyn.鈥

Fideo: Tips adolygu - arbenigwyr

Cyngor adolygu鈥檙 arbenigwyr

Mae mwy i adolygu na gweithio yn unig. Dyma rai syniadau gan ein harbenigwyr - y Criw Cynghori - ar sut i gadw鈥檔 iach a gwarchod dy iechyd meddwl er mwyn i ti allu gweithio鈥檔 effeithlon.

Beca 鈥淵n ogystal 芒 bwyta diet cytbwys i dy helpu i reoli stress, cofia gynnwys amser ar gyfer ymarfer corff wrth greu dy gynllun gwaith. Yn ogystal 芒 rhoi cyfle i ti gamu i ffwrdd o dy waith am ychydig, mae ymarfer corff yn cynyddu lefelau鈥檙 endorffinau yn dy gorff, ac mae endorffinau鈥檔 dy helpu i deimlo鈥檔 dda.鈥

Rob 鈥淧aid 芒 gweithio a gweithio. Mae ymlacio a chysgu鈥檔 rhoi cyfle i dy ymennydd gadarnhau beth rwyt ti wedi ei ddysgu, felly mae noson dda o gwsg yn gallu bod yr un mor dda 芒 diwrnod da o waith!鈥

Angharad 鈥淲eithiau mae鈥檔 anodd gwybod ble i ddechrau adolygu ac mae poeni am hynny鈥檔 gallu achosi straen. Os nad oes gen ti syniad ble i ddechrau, gofynna i dy athro am gymorth i adnabod unrhyw fannau gwan, neu brif bwyntiau adolygu鈥檙 arholiad. Byddan nhw鈥檔 medru rhoi canllawiau a strwythur i ti eu dilyn. Unwaith bydd gen ti gynllun, byddi di鈥檔 teimlo cymaint gwell.鈥

Sara 鈥漁s wyt ti'n cael trafferth ysgogi dy hun, gwna'r dasg gyntaf yn un o'r rhai mwyaf diddorol neu bleserus.鈥

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw鈥檔 barod. Mae鈥檙 t卯m yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw鈥檔 gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i鈥檞 rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori鈥檔 rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti鈥檔 poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti鈥檔 ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu鈥檔 le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau鈥檔 mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a鈥檙 lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae鈥檙 llinellau ff么n ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar 麻豆约拍 Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau

Adolygu: Tips gan arbenigwr

Cyngor gan arbenigwr ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Tips gan arbenigwr

Arholiadau ac asesiadau

Mae ein t卯m ifanc yn trafod ac yn rhannu eu tips nhw ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Arholiadau ac asesiadau