Â鶹ԼÅÄ

Pam fod fy sylw neu gynnwys wedi cael ei ddileu?

Diweddarwyd: 12 Mai 2020

Mae yna ddau reswm pam fod eich sylw neu gynnwys wedi cael ei ddileu o wefan neu ap y Â鶹ԼÅÄ:

  1. Mae rhywun wedi cwyno ei fod yn torri rheolau'r Â鶹ԼÅÄ o ran gwneud sylwadau a llwytho cynnwys.
  2. Mae ein hidlwyr cymedroli neu gymedrolwr wedi sylwi arno.

Darllenwch fwy am sut rydyn ni'n cymedroli fan hyn.

Os ydyn ni'n dileu unrhyw un o'ch sylwadau neu gynnwys, byddwn ni'n eich e-bostio i egluro pam. 'Dyw hi ddim yn bosib i gymedrolwr ddileu sylw heb greu e-bost yn awtomatig sy'n egluro hyn. Mae hyn yn helpu i gadw’r system yn deg.

Weithiau, efallai y byddwch yn derbyn ymateb personol i ddweud pam fod y sylw wedi cael ei ddileu. Ond allwn ni ddim gwneud hyn bob tro.

Os ydych chi wedi darllen yr e-bost ac yn anghytuno, yna gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Dysgwch sut i apelio fan hyn.

Change language: