鶹Լ

Beth yw adolygu sylwadau?

Diweddarwyd: 17 Chwefror 2020

Mae sylwadau a chreadigaethau sydd wedi eu llwytho i'n gwefannau, fel lluniau, yn cael eu gwirio'n aml er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at reolau'r 鶹Լ ar wneud sylwadau a llwytho cynnwys. Ac os nad ydyn nhw, maen nhw'n cael eu dileu. Dyma'r broses gymedroli.

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad cymedroli, gallwch wneud apêl. Darllenwch fwy am hyn yn "Alla i wneud apêl yn erbyn penderfyniad cymedroli?"

Sut rydyn ni'n cymedroli

Cymedroli ymatebol

Mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau neu'r cynnwys yn cael eu “cymedroli’n ymatebol”. Mae hynny’n golygu ein bod yn eu gwirio pan:

  • fydd rhywun wedi gwneud cwyn amdanyn nhw (drwy ddefnyddio’r botwm cwyno ar waelod pob sylw)
  • fydd hidlydd cymedroli yn ein rhybuddio bod yna broblem bosib.

Cymedroli cyn cyhoeddi

Pwy bynnag rydych chi, byddwn wastad yn gwirio eich sylw cyntaf cyn iddo gael ei gyhoeddi. Dyma’r cyfnod “cyn-gymedroli”. Yna, fel arfer, bydd eich cyfrif yn mynd nôl i normal.

Ar unrhyw adeg, os oes rhywun yn parhau i dorri'r rheolau o ran rhoi sylwadau a llwytho i cynnwys, efallai y bydd eu cyfrif yn cael ei "osod" i’r cam cyn-gymedroli.

Yn yr achosion hyn, mae cymedrolwr yn gwirio bob sylw cyn iddo ymddangos.

Change language: