Diweddarwyd: 17 Chwefror 2020
Gallwch. Fe allwch chi wneud apêl os:
- Oes cymedrolwr wedi dileu eich sylw neu gynnwys, ond nad ydych chi'n cytuno ei fod wedi torri'r rheolau ar wneud sylwadau a llwytho cynnwys
- Wnaethoch chi gwyno am sylw neu gynnwys am dorri'r rheolau, ond fod y cymedrolwr yn anghytuno ac felly ni gafodd ei ddileu
- Yw eich cyfrif wedi cael ei wahardd neu ei osod i gael ei gymedroli cyn cyhoeddi. (Gallwch ddarllen mwy am gymedroli cyn cyhoeddi yn "Beth yw cymedroli?".)
Sut ydw i'n gwneud apêl?
Gallwch wneud apêl drwy ddefnyddio'r ffurflen adborth hon.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith rydych chi wedi gwneud apêl yn erbyn penderfyniad cymedroli, byddwn ni'n ei adolygu ac yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad.
Mae eich apêl yn llwyddiannus
Os ydyn ni'n gweld bod yna gamgymeriad wedi cael ei wneud, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn ni hefyd yn ailgyhoeddi eich sylw neu gynnwys, yn dibynnu ar y sefyllfa.
Mae eich apêl yn aflwyddiannus
Os ydyn ni'n penderfynu bod y penderfyniad cymedroli gwreiddiol wedi bod yn gywir, byddwn yn cysylltu â chi i gluro pam.
Os ydych chi dal i deimlo nad yw eich apêl wedi cael ei drin yn deg, gallwch wneud cwyn yma. Ond gwnewch yn siŵr ei fod yn ymwneud â rhywbeth o sylwedd, nid rhywbeth dibwys.