Diweddarwyd y dudalen: 31 Gorffennaf 2019
Mae eich data yn bwysig
Rydyn ni eisiau eich helpu chi i ddeall eich hawliau â'u gwneud mor hawdd â phosib i chi.
Cofiwch
Yn dibynnu beth yw'r cais, efallai y byddwn angen dau fath o brawf adnabod er mwyn sicrhau mai chi yw chi.
Er enghraifft:
- Pasbort
- Trwydded yrru
- Tystysgrif geni
- Bil trydan/nwy/dŵr, cyfriflen banc neu lyfr rhent o'r tri mis diwethaf
- Dogfen cofrestru car cyfredol
Efallai fod yna achlysuron pan allwn ni ddim cwrdd â'ch gofynion. Er enghraifft:
- Os fydd yn effeithio ar hawliau person neu gwmni arall
- Os nad ydych chi wedi rhoi'r holl wybodaeth rydyn ni ei hangen, yn cynnwys prawf adnabod
- Os yw'r gyfraith yn ein stopio neu os yw'n rhan o'n cynnwys newyddiadurol
- Ac weithiau os ydyn ni'n credu fod eich cais yn un eithafol
Os na allwn ni eich helpu, byddwn yn cysylltu'n ôl ac egluro pam. Byddwn ni'n ceisio cysylltu'n ôl o fewn mis. Am geisiadau mwy cymhleth neu nifer o geisiadau, efallai byddwn ni'n cymryd hirach, ond fe ddywedwn ni os oes oedi a pham.