Diweddarwyd y dudalen: 4 Ionawr 2022
Dyma hawl i symud data. Dyma'r hawl i ofyn am a lawrlwytho gwybodaeth bersonol rydych chi wedi ei rhoi i ni yn electronig, fel y gallwch:
- Ei symud
- Ei chopïo
- Ei chadw
Os oes gennych chi gyfrif Â鶹ԼÅÄ
Mae'n rhaid i chi wneud cais i weld pa wybodaeth sy'n bodoli amdanoch chi ar eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ. Wedyn, gallwch ei hanfon at gwmni arall os hoffech chi.
Beth am wybodaeth arall?
Mae hyn yn dibynnu ar beth rydych chi'n gofyn amdano. Bydd rhaid i chi gysylltu â ni a rhoi mwy o fanylion i'n helpu ni i ddod o hyd iddo. Yn dibynnu ar beth ydyw, yna gallwn drio ei roi i chi er mwyn ei rannu â chwmni arall.
Cofiwch, pan rydyn ni'n cysylltu'n ôl â chi, efallai y byddwn ni angen prawf adnabod er mwyn sicrhau mai chi yw chi.
Efallai fod yna achlysuron pan allwn ni ddim cwrdd â'ch gofynion.