Diweddarwyd y dudalen: 9 Mai 2018
Weithiau, rydyn ni'n defnyddio ein cyfrifiaduron er mwyn astudio eich gwybodaeth bersonol. Efallai y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma fel ein bod ni'n gwybod sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Pan ddaw hi at benderfyniadau mawr a allai gael effaith arnoch chi, mae gennych chi'r "hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig, gan gynnwys proffilio". Ond byddwn ni bob amser yn egluro hyn i chi pan mae hi'n bosib y byddwn ni'n gwneud hyn, pam ei fod yn digwydd a'r effaith.
Os oes gennych chi gyfrif Â鶹ԼÅÄ
Efallai y byddwch chi'n derbyn argymhellion wedi eu personoleiddio, a gallwch ddewis i ddiffodd rhain.
Beth am wybodaeth arall
Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis er mwyn deall sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Gallwch eu diweddaru yn eich gosodiadau.