Â鶹ԼÅÄ

Sut rydych chi'n casglu gwybodaeth amdanaf?

Diweddarwyd: 19 Medi 2024

Rydych yn darparu rhywfaint o wybodaeth eich hun

Er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif Â鶹ԼÅÄ:

  • Mae'n rhaid i unrhyw un o dan 13 oed roi eu dyddiad geni, eu tref enedigol a dewis enw defnyddiwr
  • Mae'n rhaid i unrhyw un 13 oed a throsodd roi eu cyfeiriad e-bost, cod post a dyddiad geni.
  • Rydyn ni'n gofyn i bawb â pha rywedd rydych chi'n uniaethu. Gallwch ddewis benyw, gwryw neu unrhyw derm arall yr hoffech ei ddefnyddio. Mae yna hefyd opsiwn os hoffech chi beidio â dweud

Mae mwy o fanylion fan hyn ynglŷn â pham maen rhaid i chi roi gwybodaeth bersonol wrth i chi gofrestru

Rydyn ni’n casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig

Fel eich cyfeiriad IP, pa borwr a dyfais rydych yn ei ddefnyddio, neu ID eich dyfais. A gallwn ni ddweud pa dudalen we a’ch cyfeiriodd at y Â鶹ԼÅÄ drwy edrych ar wybodaeth o’ch porwr.

Rydyn ni'n casglu peth gwybodaeth er mwyn deall sut rydych chi'n defnyddio'r Â鶹ԼÅÄ ar-lein er mwyn rhoi Â鶹ԼÅÄ gwell i chi. Os ydych chi wedi mewngofnodi, mae eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ yn eich caniatáu i bersonoli eich profiad o'r Â鶹ԼÅÄ ar-lein.

Gall unrhyw un o apiau’r Â鶹ԼÅÄ ar eich ffôn, tabled neu deledu storio gwybodaeth ar eich dyfais. A gallwn gael mynediad at y wybodaeth honno. A phan fyddwch chi’n gofyn am dywydd neu newyddion lleol, gallwch ddewis a ydych am roi mynediad i ni at leoliad eich dyfais.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bethau rydych yn eu hychwanegu

Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu sioeau yn Â鶹ԼÅÄ Sounds er mwyn gwrando arnyn nhw nes ymlaen ac i dderbyn y penodau diweddaraf wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Mae rhagor o wybodaeth am ychwanegu fan hyn.

Sut mae'r Â鶹ԼÅÄ yn defnyddio fy ngwybodaeth?

Gwybodaeth bersonol

Mae gwybodaeth ynglÅ·n â'ch rhywedd, oed a lleoliad yn ein helpu i weld sut mae gwahanol bobl yn defnyddio'r Â鶹ԼÅÄ ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb.

Ffordd arall rydyn ni'n gwirio'ch lleoliad cyfredol yw trwy eich cyfeiriad IP (Protocol Rhyngrwyd) a gwybodaeth arall am eich dyfais.

Rydyn ni’n defnyddio rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol i ddarparu ein gwasanaethau, rhoi argymhellion i chi am bethau y byddwch chi'n eu hoffi, ac i bersonoli rhannau o’r Â鶹ԼÅÄ, gan gynnwys hysbysebion pan fyddwch yn defnyddio’r Â鶹ԼÅÄ y tu allan i’r DU.

Hysbysebu ar wefannau eraill

Efallai y byddwn yn dangos negeseuon hyrwyddo wedi’u personoli ar safleoedd eraill. Er enghraifft, roi gwybod i chi am raglen newydd all fod o ddiddordeb i chi.

Alla i weld hanes popeth rydw i wedi’i wylio?

Pan fyddwch wedi mewngofnodi, bydd adran Fy Rhaglenni yn iPlayer yn dangos unrhyw raglenni rydych wedi’u gwylio’n rhannol. Felly gallwch barhau ag unrhyw beth nad ydych wedi’i orffen. Neu ddod o hyd i’r rhaglen nesaf mewn cyfres rydych wedi bod yn ei gwylio.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: