Â鶹ԼÅÄ

Pam mae’n rhaid i fi ddarparu gwybodaeth bersonol wrth gofrestru?

Diweddarwyd: 25 Ebrill 2023

Rydyn ni’n rheoli eich manylion personol yn ofalus iawn. Felly, rydyn ni eisiau i chi ddeall pam ein bod ni’n gofyn am bob darn o wybodaeth a sut byddwn ni’n ei ddefnyddio i wneud y Â鶹ԼÅÄ yn well.

E-bost/Enw defnyddiwr

Os ydych chi'n 13 oed neu'n hÅ·n byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost. Os ydych chi o dan 13 oed byddwn yn gofyn i chi greu enw defnyddiwr, sy'n wahanol i enw arddangos. Cewch ragor o wybodaeth am enwau arddangos fan hyn.

Rydyn ni’n defnyddio hwn i wirio eich bod chi’n rhywun go iawn (nid robot) ac am resymau diogelwch, fel mai dim ond chi all gael mynediad at eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ. Ni fydd neb arall yn gallu gweld eich e-bost neu enw defnyddiwr.

Mae eich cyfeiriad e-bost hefyd yn gadael i chi ailosod eich cyfrinair os byddwch yn ei anghofio. Ac mae’n golygu y gallwn gysylltu â chi os oes angen i ni ddweud wrthych am rywbeth newydd, fel newid i’n telerau defnyddio.

Cyfrinair

Mae eich cyfrinair yn cadw eich cyfrif yn ddiogel, fel na all pobl eraill gael mynediad ato. Gwnewch yn siŵr ei fod yn anodd ei ddyfalu ac yn cynnwys:

  • Wyth neu ragor o nodau cyfrifiadurol
  • O leiaf un llythyren
  • O leiaf un rhif neu symbol.

Dyddiad geni

Pan ydych chi'n cofrestru am y tro cyntaf, rydyn ni'n gofyn am eich dyddiad geni. Mae hyn er mwyn i chi allu defnyddio rhannau o'r Â鶹ԼÅÄ sy'n addas ar gyfer eich oedran. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn caniatáu oedolion i bostio negeseuon ar fwrdd negeseuon i blant. Mae hyn hefyd yn ffordd i'r Â鶹ԼÅÄ sicrhau eich bod chi'n hÅ·n na 18 oed.

Mae hefyd yn golygu y gallwn weld sut mae pobl o oedrannau gwahanol yn defnyddio'r Â鶹ԼÅÄ. Ynghyd â gwybodaeth am rywedd a lleoliad pobl, mae'n ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth i bawb.

Mae gwybod eich dyddiad geni yn golygu y gallwn ni hefyd roi mwy o wybodaeth berthnasol i chi ar draws y Â鶹ԼÅÄ ac mewn unrhyw e-byst rydych chi'n gofyn amdanyn nhw wrth y Â鶹ԼÅÄ.

Storio eich dyddiad geni

Os ydych chi'n 18 oed neu'n hÅ·n, dim ond eich blwyddyn geni y byddwn ni'n ei gadw, nid y dydd a'r mis. Mae hyn oherwydd ein bod ond yn cadw'r data rydyn ni ei angen i wneud y Â鶹ԼÅÄ yn fwy personol i chi. Dydyn ni ddim angen dydd a mis eich pen-blwydd i wneud hynny, felly dydyn ni ddim yn eu cadw.

Os ydych chi'n iau na 18 oed, byddwn ni'n cadw eich dyddiad geni llawn, fel ein bod ni'n gwybod pryd rydych chi'n troi'n 18 oed. Pan fydd hynny'n digwydd, byddwn ni'n dileu y diwrnod a'r mis o'n cofnodion.

Tu allan i’r DU?

Rydyn ni’n ei ddefnyddio am y rhesymau a restrir. Ac oherwydd bod y Â鶹ԼÅÄ wedi’i ariannu’n fasnachol y tu allan i'r DU, mae Â鶹ԼÅÄ Global News Limited yn ei ddefnyddio i bersonoli eich profiad hysbysebu. Os byddai’n well gennych i ni beidio â defnyddio’ch gwybodaeth yn y ffordd yma, gallwch newid eich gosodiadau cwci.

Rhywedd

Rydyn ni'n gofyn i bawb â pha rywedd rydych chi'n uniaethu. Gallwch ddewis benyw, gwryw neu unrhyw derm arall yr hoffech ei ddefnyddio. Mae yna hefyd opsiwn os hoffech chi beidio â dweud.

Mae hyn yn ein helpu i weld sut mae pobl o ryweddau gwahanol yn defnyddio'r Â鶹ԼÅÄ. Ynghyd â gwybodaeth am oedran a lleoliad pobl, mae'n ein helpu i wirio ein bod yn gwneud rhywbeth i bawb. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn, ynghyd â gwybodaeth arall amdanoch chi, i roi gwybodaeth fwy perthnasol i chi ar draws y Â鶹ԼÅÄ ac mewn unrhyw e-byst rydych chi'n gofyn amdanyn nhw wrth y Â鶹ԼÅÄ.

Lleoliad

Os ydych chi yn y DU ac yn 13 oed neu'n hÅ·n, byddwn yn gofyn am eich cod post.

Os ydych chi yn y DU ac yn iau na 13 oed, byddwn ni'n gofyn am eich tref, sef y lle rydych chi'n byw.

Rydyn ni’n defnyddio eich lleoliad:

  • i roi gwybodaeth leol berthnasol i chi ar-lein ac mewn unrhyw gylchlythyron e-bost rydych chi’n cofrestru ar eu cyfer.
  • at ddibenion dadansoddi ac ymchwil er mwyn i ni allu gwella'r gwasanaethau mae'r Â鶹ԼÅÄ yn eu cynnig. Gall hyn gynnwys defnyddio gwybodaeth geo-ddemograffig o ffynonellau allanol, lle bo hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb.

Rydyn ni hefyd yn gofyn am eich cod post yn llawn, oherwydd ei fod yn ein helpu ni i ddeall sut mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cael ei ddefnyddio ar draws y wlad. Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth bawb ac yn rhoi'r gwerth gorau am ffi'r drwydded. Gallwch ddarllen mwy am sut mae popeth a wnawn o fudd i chi, ein cynulleidfa, fan hyn.

Tu allan i’r DU?

Os ydych y tu allan i'r DU byddwn yn gofyn am eich gwlad breswyl yn lle hynny.

Rydyn ni’n ei ddefnyddio am y rhesymau a restrir. Ac oherwydd bod y Â鶹ԼÅÄ wedi’i ariannu’n fasnachol, mae Â鶹ԼÅÄ Global News Limited yn ei ddefnyddio hefyd i bersonoli hysbysebion. Os oes gennych gyfrif yn y DU, byddwch chi’n dal i weld hysbysebion ond ni fyddant yn cael eu personoli.

Os byddai’n well gennych i ni beidio â defnyddio’ch gwybodaeth yn y ffordd yma, gallwch newid eich gosodiadau cwci.

Ar gyfer beth y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa. Ac mae hynny'n cynnwys yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.

Rydyn ni'n defnyddio’r wybodaeth hon, er eich budd chi, mewn dwy ffordd:

1. Â鶹ԼÅÄ mwy personol i chi

Mae'n ein helpu ni i wneud y Â鶹ԼÅÄ yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:

  • Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
  • Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r rydych chi’n byw
  • Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.

2. Gwneud rhywbeth i bawb

Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb.

Wrth i fwy o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae angen i ni ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio. Mae pethau fel iPlayer yn rhoi mwy o ffyrdd i chi fwynhau cynnwys y Â鶹ԼÅÄ. Ac er bod y rhain yn gadael i ni weld faint o bobl sy’n mwynhau’r pethau rydyn ni'n eu gwneud, nid ydyn nhw’n dweud dim wrthym ni amdanyn nhw. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod a ydyn ni’n gwneud rhywbeth i bawb.

Dyna pam ein bod ni’n gofyn i chi fewngofnodi a rhoi rhywfaint o wybodaeth.

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion personol i unrhyw un a byddwn ond yn defnyddio eich data yn fasnachol os ydych yn defnyddio gwasanaeth Â鶹ԼÅÄ sy’n fasnachol. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion personol i unrhyw un y tu allan i’r Â鶹ԼÅÄ heb eich caniatâd

Rhagor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd.

Rydyn ni'n rhannu rhywfaint o'ch manylion personol â Trwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi'n defnyddio Â鶹ԼÅÄ iPlayer ac i ddiweddaru ei fas-data. Mae mwy o wybodaeth yma ynglÅ·n â phryd ydych chi angen trwydded teledu.

Change language: