Â鶹ԼÅÄ

Beth yw caniatâd i blant?

Diweddarwyd: 12 Medi 2022

Mae caniatâd i blant yn eich helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel, drwy eich rhoi mewn rheolaeth o'r hyn y gallan nhw ac na allan nhw ei wneud ar wefannau plant y Â鶹ԼÅÄ.

Gosod caniatâd?

Mae gosod caniatâd yn eich galluogi i wneud pethau fel:

Rhoi caniatâd i’ch plentyn adael sylwadau ar wefannau plant y Â鶹ԼÅÄ

Mae hyn er mwyn gadael iddyn nhw bostio sylwadau ar wefannau plant y Â鶹ԼÅÄ. Rydyn ni’n cymedroli sylwadau cyn eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn Rheolau’r TÅ·.

Troi personoli ymlaen neu i ffwrdd

Os ydych yn caniatáu personoli, bydd eich plentyn yn gallu cael argymhellion wedi eu personoli am bethau rydym yn credu y bydd yn eu hoffi, ac ailddechrau sioeau lle cawson nhw eu gadael y tro blaenorol.

Troi hysbysiadau ymlaen neu i ffwrdd

Os ydych chi’n caniatáu hysbysiadau, byddwn yn rhoi gwybod i'ch plentyn pan fydd rhywbeth newydd am unrhyw raglen, artist cerddorol neu restrau chwarae y mae wedi eu ychwanegu.

Gadael i’ch plentyn lwytho lluniau, fideos a sain

Gall eich plentyn anfon lluniau, fideos a chreadigaethau digidol atom er mwyn i blant eraill eu gweld. Bob tro y byddan nhw’n anfon rhywbeth, byddwn yn bwrw golwg arno i weld ei fod yn iawn i’w ddefnyddio.

Byddwn hefyd yn eich hysbysu'n awtomatig fel y gallwch newid eich meddwl fesul achos - felly cadwch lygad am yr e-byst hyn. Yna efallai y byddwn yn ei gyhoeddi ar y wefan neu ei ddangos ar y teledu, er enghraifft.

Cofiwch, rydym yn gwarchod gwybodaeth eich plentyn – gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd pan fydd plant yn llwytho pethau ar y Â鶹ԼÅÄ.

Cofiwch...

Ni all plant reoli caniatâd i blant ar eu pen eu hunain. Felly os ydych eisiau iddyn nhw allu gwneud sylwadau ar CÂ鶹ԼÅÄ, er enghraifft, bydd angen i chi osod y caniatâd ar eu cyfer.

Yn ogystal, gall unrhyw newidiadau a wnewch i ganiatâd i blant gymryd awr neu ddwy i ddod i rym. I gyflymu pethau, gall eich plentyn allgofnodi a mewngofnodi eto.

Sut i osod neu reoli caniatâd ar gyfer plentyn

Alla i weld beth mae fy mhlentyn yn ei ddarllen, ei wylio neu'n g wrando arno ar y Â鶹ԼÅÄ?

Na dydyn ni ddim yn darparu ffordd i chi weld sut mae eich plentyn yn defnyddio'r Â鶹ԼÅÄ. Ond gallwch chi reoli beth mae plant yn eich cartref yn ei wylio ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer drwy ddefnyddio'r Clo i Rieni.

Gallwch ddysgu mwy amdano yma.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddiheuriadau.

Change language: