Â鶹ԼÅÄ

Sut all fy mhlentyn wneud sylwadau, llwytho cynnwys a mwy?

Diweddarwyd: 2 Chwefror 2021

Gallwch osod caniatâd, fel gwneud sylwadau neu lwytho cynnwys, pan fyddwch yn creu cyfrif i blentyn am y tro cyntaf. Dilynwch y cyfarwyddiadau.

Os ydych chi eisiau rheoli caniatâd rywbryd eto, y ffordd hawsaf yw os oes gennych chi eich dau gyfrifon Â鶹ԼÅÄ. Fel hyn, gallwch gysylltu cyfrif eich plentyn i'ch un chi, a gosod caniatâd oddi yno unrhyw bryd. Os nad oes gennych eich cyfrif eich hun, gallwch gofrestru am un. Mae'n hawdd a chyflym i'w wneud.

Ond nid oes rhaid i chi gael cyfrif Â鶹ԼÅÄ i reoli caniatâd. Pan fydd eich plentyn yn ceisio gwneud rhywbeth newydd ar y Â鶹ԼÅÄ, fel rhoi sylwadau ar wefannau i blant, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw gael eich caniatâd chi. Naill ai y byddwch chi'n derbyn e-bost neu gallwch .

Sut i roi caniatâd ychwanegol ar gyfer proffiliau plant ar iPlayer

Efallai eich bod wedi gosod proffil i'ch plentyn fel y gall ddefnyddio iPlayer. Mae hyn yn wahanol i gyfrif plentyn y Â鶹ԼÅÄ. Gan ei fod yn gweithio gydag iPlayer yn unig, ni fyddan nhw’n gallu defnyddio nodweddion ar rannau eraill o'r Â鶹ԼÅÄ, fel cystadlu mewn cystadlaethau neu roi sylwadau.

I ganiatáu hynny, gallwch greu cyfrif Â鶹ԼÅÄ i blentyn i sefydlu caniatâd.

Dyma sut rydych chi'n creu cyfrif plentyn ar wefan Â鶹ԼÅÄ pan fydd eich plentyn eisoes wedi mewngofnodi i’w proffil:

  1. Switsio o broffil eich plentyn i’ch cyfrif
  2. Allgofnodi o’ch cyfrif
  3. Ewch i fewngofnodi unwaith eto
  4. gyfrif newydd o dan 13 oed. Gofynnir i chi osod eu caniatâd yn ystod y broses hon.

Sut i ddatgysylltu cyfrifon

Mae'n rhaid i’r plentyn wneud hyn (allwch chi ddim). Os byddant nhw'n gwneud hynny, bydd y rhiant neu'r gwarchodwr yn cael e-bost yn esbonio beth sydd wedi digwydd.

I ddad-danysgrifo fel plentyn:

  • Ewch i adran "Gosodiadau" eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ
  • Cliciwch ar "Caniatâd i blantâ€
  • Cliciwch ar "Datgysylltu".

Bydd y cyfrifon wedyn yn cael eu datgysylltu.

Ond cofiwch...

Os bydd y plentyn yn datgysylltu cyfrifon, bydd unrhyw ganiatâd sydd wedi ei osod yn cael ei golli. Er enghraifft, os yw'r rhiant neu'r gwarcheidwad wedi rhoi caniatâd i'r plentyn adael sylwadau ar wefannau plant, byddai datgysylltu yn golygu na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny ddim mwy.

Change language: