Â鶹ԼÅÄ

Mae fy mhlentyn wedi anghofio ei gyfrinair

Diweddarwyd: 12 Medi 2022

Os yw'r plentyn yn iau na 13 oed, ni fydd yn gallu ail-osod ei gyfrinair os yw wedi ei anghofio. Mae hyn oherwydd dydyn ni ddim yn gofyn am gyfeiriad e-bost pan mae plant yn cofrestru, felly allwn ni ddim anfon e-bost ail-osod cyfrinair. Efallai eich bod chi, y rhiant neu warchodwr, wedi helpu i greu'r cyfrinair, ac efallai yn ei gofio.

Os dyw'r un ohonoch yn medru cofio'r cyfrinair, bydd rhaid cofrestru am gyfrif newydd.

Yn meddwl tybed pam nad ydyn ni'n gofyn i blant sy'n iau na 13 am eu cyfeiriad e-bost? Mae hyn oherwydd ein bod ni'n cymryd eu preifatrwydd o ddifri', felly dydyn ni ddim yn gofyn iddyn nhw am gyfeiriad e-bost.

Change language: