Diweddarwyd y dudalen: 16 Mai 2017
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch i ddilysu eich cyfeiriad e-bost. Bydd angen i chi ddilysu eich cyfeiriad e-bost os ydych chi eisiau defnyddio nodweddion penodol, fel rhoi sylwadau ar straeon neu gyhoeddi lluniau. Mae hyn oherwydd y gallai fod angen i ni gysylltu â chi.
Er mwyn dilysu'r cyfeiriad e-bost, cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost gafodd ei anfon atoch chi pan gwnaethoch chi gofrestru.
Methu dod o hyd i'r e-bost?
Gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam. Efallai y bydd y neges e-bost wedi cael ei rhoi yno gan hidlydd sbam gorfrwdfrydig. Os ydych chi wedi cofrestru gyda chyfeiriad e-bost ffug, bydd angen i chi fynd at eich gosodiadau cyfrif Â鶹ԼÅÄ a'i newid i un go iawn cyn gallwch chi ei wirio.
A yw'r ddolen yn yr e-bost yn ddiffygiol?
Ceisiwch glicio arni eto. Os ydych chi’n copïo a gludo i mewn i'ch porwr gwe, gwnewch yn siŵr nad ydych chi wedi ychwanegu neu ddileu unrhyw beth mewn camgymeriad.
Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.