Â鶹ԼÅÄ

Sut ydw i'n creu cyfrif Â鶹ԼÅÄ?

Diweddarwyd: 19 Medi 2024

Gallwch gofrestru drwy ddilyn . Cofiwch eich cyfrinair newydd ar gyfer y tro nesaf, ond peidiwch â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag ofn i rywun ddod o hyd iddo.

Yn gyntaf byddwn yn gofyn a ydych chi dros neu o dan 13 oed. Ar sail hynny, byddwn yn gofyn am y wybodaeth ganlynol

Os ydych yn 13 oed a throsodd, ac yn y DU

Mae angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, cod post a chyfrinair.

Os ydych o dan 13 oed, ac yn y DU

Rydyn ni’n gofyn i’ch rhiant neu warcheidwad gofrestru cyfrif ar eich cyfer. Byddwn yn gofyn iddyn nhw roi eu cyfeiriad e-bost. Byddwn hefyd yn gofyn iddyn nhw roi eich enw defnyddiwr (yn lle cyfeiriad e-bost), cyfrinair, dyddiad geni, tref enedigol ac enw arddangos.

Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Rydyn ni’n gofyn am eich oedran, eich cyfeiriad e-bost, gwlad a chyfrinair.

Os ydych chi tu allan i'r Deyrnas Unedig ac o dan 16 oed

Ni fydd cyfrif y Â鶹ԼÅÄ yn rhoi mynediad i gynnwys plant sydd ar gael yn y DU. Peidiwch â chreu cyfrif Â鶹ԼÅÄ os ydych chi y tu allan i'r DU ac o dan 16, neu efallai bydd y cyfrif yn cael ei ddileu.

Gallwch gael gwybod am y wybodaeth y gofynnwn amdani a pham ein bod ni'n gofyn fan hyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: