Main content

Yr Eira

Mae Yr Eira o Fangor yn ymosod ar y templed a grëwyd gan fandiau fel Big Leaves, Yr Ods a Sŵnami gyda'i gitarau deintiog a chyflenwad di-dor o alawon tanbaid.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Lewys Wyn Jones (llais/ Gitâr), Guto Gwyn Howells (Drymiau), Ifan Sion Davies (Gitâr), Trystan Huw Thomas (Bas)

Oriel Lluniau

Mae'r band yr un mor fywiog â'r Two Door Cinema Club cynnar, ac os mai Sŵnami yw'r Beatles Cymraeg, Yr Eira yw Rolling Stones y Sîn Roc Gymraeg. Neu a ddylai hynny fod i'r gwrthwyneb? Y naill ffordd neu'r llall, mae Yr Eira wedi darparu seiniau cofiadwy ar gyfer llu o ddefodau ledled Cymru yn y ddwy flynedd ers iddo ffurfio.

Enillodd y band Frwydr y Bandiau Gŵyl Wakestock yn 2013 gan berfformio i gynulleidfa frwd ym Maes B a theithio gyda Sŵnami a Candelas.

Mae dwy sengl ac EP y band ar gyfer Recordiau IkaChing wedi cael eu croesawu a'u dathlu gan y radio fel y meibion afradlon. Cafodd y gân bop berffaith 'Elin' ei henwebu am gân y flwyddyn yng ngwobrau cerddoriaeth cylchgrawn Selar 2013. Chwaraeodd Huw Stephens 'Trysor' ar ei sioe ddylanwadol ar Radio 1. Ac enwebwyd y band hefyd am ragor o wobrau Selar yn 2014 (band y flwyddyn, EP gorau, cân orau).

Ddylai'r storm eira hon o gymeradwyaeth a gweithgarwch ddim cuddio'r ffaith bod rhai symudiadau eang iawn ymhlith rhai o'r alawon pob bachog hyn, yn bennaf, y gitâr gwyllt ar ddiwedd Ymollwng.

Storm "Eira" yng ngwir ystyr y gair.

Dolenni Perthnasol