Main content

Y REU

Mae'r byd yn llawn bandiau clasurol sydd ΓΆ dylanwadau clasurol, y mae modd rhagweld eu casgliad o recordiau yn gywir ar Γ΄l clywed 10 eiliad o un gΓΆn.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Iwan Fon, Mathonwy Llwyd, Cai Gruffydd, Lloyd Steele, Iwan Llyr

Sain a Fideo

Y Reu - Horizons 12 Introduction

A quick introduction to the Caernarfon 5-piece at the start of their Horizons' year.

Oriel Lluniau

Nid yw hyn yn wir am Y Reu. Ar yr olwg gyntaf, mae'r band yn swnio fel Jim Morrison anweddus yn canu gyda Royal Blood drwy gyfrwng y Gymraeg (Darnau Bach), ac yna mae'n cyfuno cerddoriaeth House gydag atseiniau Happy Mondays...band oedd wedi gweld gwell dyddiau ymhell cyn i unrhyw aelod o Y Reu gael ei eni (Haf).

Braf yw cael eich rhyfeddu gan griw o bobl ifanc yn rhoi eu stamp eu hunain ar gerddoriaeth roc a rôl y gorffennol, ac mae Y Reu yn dipyn o ryfeddod.

Band pum person o Ddyffryn Nantlle / Caernarfon yw Y Reu ac mae ei setiau byw nwydwyllt eisoes wedi arwain at ddawnsio gorffwyll o Faes B yr Eisteddfod i Glwb Ifor Bach.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y band y llynedd gan Recordiau I Ka Ching a hynny i ganmoliaeth frwd ac fe'i chwaraewyd ar y radio'n genedlaethol.

Mae'r ail sengl ar fin cael ei recordio yn ystod Gwanwyn 2015 a'i rhyddhau "cyn yr Haf".

Gwisgwch eich welis dawnsio. Bydd synau amryfal Y Reu yn bywiogi gwyliau cerddoriaeth eleni.

Dolenni Perthnasol