Main content

Delyth McLean

Llais swynol, elfennaidd Delyth McLean yw un o'r lleisiau diweddar mwyaf gwefreiddiol a thrawiadol ar y sΓ®n cerddoriaeth yng Nghymru. .

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Delyth McLean

Artist dwyieithog o Ferthyr Tudful yw Delyth, tref sy'n gartref i genhedlaeth newydd sbon o artistiaid cyffrous o Gymru: Kizzy Crawford (Gorwelion 2014), Catherine Anne Davies (The Anchoress) a Pretty Vicious, i enwi dim ond rhai.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Delyth wedi bod yn gweithio gyda chynllun datblygu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc, sefydliad sy'n gwneud gwaith gwych yn meithrin talent ifanc o Gymoedd De Cymru. Gyda chymorth y sefydliad hwn, llwyddodd i ryddhau sengl dwbl ochr-A – 'Lost In Sound' / 'Tad a Mab' – a gafodd ei chwarae'n aml ar yr awyr ar Radio Wales, Radio Cymru, Amazing Radio, Nation Radio, Radio Cardiff a GTFM.

Yn ddiweddar mae Delyth wedi bod yn chwarae gyda band llawn i gyfoethogi ei pherfformiadau unigol ardderchog a llwyddiannus.

Mae Delyth wedi cefnogi artistiaid tebyg i Gruff Rhys, The People The Poet (Gorwelion 2014), Cowbois Rhos Botwnnog a Kizzy Crawford.

Dolenni Perthnasol