Â鶹ԼÅÄ

AS gafodd ei wahardd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol

Rob Roberts
  • Cyhoeddwyd

Bydd Aelod Seneddol a gafodd ei wahardd o'r blaid Geidwadol am aflonyddu rhywiol ar aelod o staff, yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Mae Rob Roberts wedi bod yn AS annibynnol dros etholaeth Delyn ers 2021 pan gafodd ei wahardd gan y Ceidwadwyr yn dilyn ymchwiliad seneddol.

Mae'n honni iddo gael trafodaethau gyda "ffigyrau blaenllaw" o'r blaid am redeg fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad i ddod, ond eu bod nhw wedi "dweud celwydd i 'ngwyneb i".

Mae'r blaid Geidwadol wedi cael cais am ymateb.

Bydd Mr Roberts yn sefyll yn etholaeth newydd Dwyrain Clwyd, gan nad yw Delyn bellach yn bodoli oherwydd newid i ffiniau etholiadol.

Fe wnaeth Mr Roberts gyhuddo aelodau'r blaid o'i "drin fel ci yn y stryd ac yna gofyn am ffafr," gan honni eu bod nhw wedi ei annog i sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy.

"Byddaf felly yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad i ddod gan barhau gyda fy ngwaith dros y pedair blynedd diwethaf yn cynorthwyo fy nghymuned cartref," meddai mewn cyhoeddiad ar ei dudalen Facebook.

Yn 2021, fe wnaeth cynllun cwynion annibynnol y senedd yn San Steffan ddod i'r casgliad fod Mr Roberts wedi gwneud cynigion anweddus i gyn-weithiwr a gofyn iddo fod yn llai deniadol.

AS presennol Dyffryn Clwyd, James Williams, yw ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Dwyrain Clwyd yn yr etholiad.

Mae'r ymgeiswyr eraill yn cynnwys Alec Dauncey (Democratiaid Rhyddfrydol), Becky Gittins (Llafur), Lee Lavery (Y Blaid Werdd) a Paul Penlington (Plaid Cymru).