Â鶹ԼÅÄ

AS yn ailymuno â'r Ceidwadwyr wedi gwaharddiad aflonyddu

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Rob Roberts sedd Delyn oddi ar y blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2019

Bydd Aelod Seneddol wnaeth aflonyddu aelod o'i staff yn rhywiol yn cael dychwelyd i'r blaid Geidwadol ddydd Llun.

Cafodd Rob Roberts, AS Delyn, ei wahardd o'r blaid am 12 wythnos ar 9 Awst, yn ogystal â'i wahardd o San Steffan am chwe wythnos ym mis Mai.

Ond er ei fod yn cael dod yn aelod o'r blaid eto o ddydd Llun, fydd Mr Roberts ddim yn cael y chwip Geidwadol yn ôl ar hyn o bryd, gan olygu y bydd yn parhau i fod yn AS annibynnol.

Dywedodd y blaid Geidwadol ar ôl i'w aelodaeth gael ei atal fod "ymddygiad Rob Roberts [heb] gyrraedd y safon sy'n cael ei ddisgwyl ohono".

Dim isetholiad

Cafodd Mr Roberts ei wahardd o DÅ·'r Cyffredin ym mis Mai wedi i ymchwiliad ddod i'r casgliad ei fod wedi torri polisi aflonyddu rhywiol y sefydliad.

Fe wnaeth Mr Roberts ymddiheuro am ei ymddygiad, gan ddweud ei fod yn "gwbl amhriodol" gan groesi ffiniau'r hyn oedd yn dderbyniol yn y berthynas rhwng Aelod Seneddol a'i staff.

Cafwyd galwadau arno i ymddiswyddo, wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddai'n destun deiseb ail-alw - allai fod wedi arwain at isetholiad.

Ond er bod y rheolau bellach wedi newid, fel bod ASau sy'n cael eu gwahardd am fwlio neu aflonyddu rhywiol yn gallu cael eu had-alw bellach, fydd y rheolau ddim yn weithredol yn erbyn Mr Roberts.