Â鶹ԼÅÄ

Y Blaid Geidwadol wedi fy ngadael pan oedd angen cymorth - Rob Roberts

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Roberts ei wahardd o DÅ·'r Cyffredin am chwe wythnos am aflonyddu'n rhywiol ar aelod o'i staff

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion all beri gofid.

Mae Aelod Seneddol a gafodd ei wahardd o'r Blaid Geidwadol am aflonyddu'n rhywiol ar aelod o'i staff wedi honni bod y blaid "wedi fy ngadael a dweud celwydd" pan oedd angen cymorth arno.

Dywedodd Rob Roberts ar un adeg ei fod yn agos at geisio lladd ei hun, ond daeth o hyd i'r "ewyllys i gamu'n ôl yn lle ymlaen a cheisio cymorth".

Gwnaeth ei sylwadau pan oedd Tŷ'r Cyffredin ystyried adroddiad Pwyllgor Breintiau a oedd yn ceryddu ymddygiad cynghreiriaid Boris Johnson, a gafodd eu cyhuddo o ymosodiad "cydlynol" ar yr ymchwiliad cychwynnol i'r honiadau am bartïon yn Rhif 10 adeg cyfnodau clo.

Dywedodd Mr Roberts fod y ddadl yn ymwneud â "pharch" i Dŷ'r Cyffredin, ei benderfyniadau, prosesau a phwyllgorau cyn iddo drafod ei achos ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rob Roberts gipio sedd Delyn oddi ar Lafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf

Dywedodd AS Delyn ei fod yn credu bod y dyfarniad yn ei achos yn anghywir, ond dywedodd nad oedd wedi siarad yn gyhoeddus oherwydd "parch i'r TÅ· hwn".

Ym mis Mai 2021, cymeradwyodd ASau gynnig i wahardd Mr Roberts o Dŷ'r Cyffredin am chwe wythnos ar ôl iddo aflonyddu aelod o staff.

'Hollol amhriodol'

Ymddiheurodd a dywedodd fod y "torri ymddiriedaeth" yn "hollol amhriodol ac na ddylai fod wedi digwydd".

Ym mis Tachwedd 2021, cafodd ei aelodaeth o'r Blaid Geidwadol yn ôl yn dilyn gwaharddiad 12 wythnos, ond mae chwip y Torïaid yn parhau i fod wedi'i atal iddo, sy'n golygu ei fod yn eistedd fel AS Annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Roberts wrth DÅ·'r Cyffredin: "Rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa braidd yn unigryw i wneud sylw ar y pwnc hwn gan yr oeddwn yn destun ymchwiliad, canfuwyd fy mod wedi tramgwyddo a chael fy sancsiynu gan broses o'r TÅ· hwn, ond eto allan o barch at y lle hwn rwyf wedi aros yn dawel.

"Ym mis Mai 2021 canfuwyd fy mod wedi torri polisi camymddwyn rhywiol y TÅ· yn dilyn ymchwiliad hir a chefais fy atal o wasanaeth y TÅ· hwn.

"Roeddwn i'n credu ar y pryd bod y dyfarniad yn anghywir. Dyna fy nghred o hyd.

"Rwyf wedi cael gwybod nifer o weithiau na allaf ddweud dim am y sefyllfa sy'n gwyro oddi wrth yr hyn sydd yn yr adroddiad yr wyf yn credu ei fod mewn camgymeriad.

"Ac felly allan o barch at y Tŷ a'i brosesau ar gost bersonol sylweddol, nid wyf wedi dweud dim er mwyn peidio â dwyn anfri arnaf fi fy hun, y broses na'r Tŷ.

"Pan dderbyniais fygythiadau i fy mywyd a galwadau am esboniad ni ddywedais unrhyw beth wrthyn nhw allan o barch tuag at brosesau'r TÅ· hwn."

'Yr ewyllys i gamu'n ôl'

Awgrymodd Mr Roberts ei fod wedi cael ei anwybyddu gan ASau eraill, cyn ychwanegu: "Pan wnaeth fy mhlaid fy hun fy ngadael a dweud celwydd wrth fy wyneb yn union ar y pwynt yr oedd angen eu cymorth fwyaf arnaf, ni ddywedais unrhyw beth allan o barch at brosesau'r TÅ· hwn."

Aeth Mr Roberts ymlaen: "Pan ar un pwynt arbennig o isel dwi'n cael fy hun yn simsanu ar ganllaw [handrail] Pont San Steffan fe wnes i ddarganfod yr ewyllys i gamu'n ôl yn lle ymlaen a cheisio cymorth.

"Fe wnaeth ffrind da o'r meinciau hyn ymyrryd ac rydw i yn ei ddyled."

Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi cael cwnsela ers mwy na blwyddyn a chanmolodd y gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn fel rhan o hyn.

Yn ddiweddarach diolchodd i aelodau'r Pwyllgor Breintiau am eu gwasanaeth.

Mae'r Blaid Geidwadol wedi cael cais am sylwadau.

Os ydy'r materion a drafodwyd yn yr erthygl yn peri pryder, mae cymorth ar gael ar wefan Â鶹ԼÅÄ Action Line.