Â鶹ԼÅÄ

Rob Roberts wedi'i wahardd o'r Blaid Geidwadol am 12 wythnos

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Roberts ei wahardd o DÅ·'r Cyffredin am chwe wythnos am aflonyddu'n rhywiol ar aelod o'i staff

Mae Aelod Seneddol o Gymru wnaeth aflonyddu'n rhywiol ar aelod o'i staff wedi cael ei wahardd o'r Blaid Geidwadol am 12 wythnos.

Mae Rob Roberts, AS Delyn, wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo yn dilyn canfyddiadau'r ymchwiliad seneddol.

Cafodd ei wahardd o DÅ·'r Cyffredin am chwe wythnos ac fe gollodd ei statws fel AS Ceidwadol, ond ar y pryd roedd yn parhau'n aelod o'r blaid.

Ond mae bellach wedi dod i'r amlwg ei fod wedi cael ei wahardd o'r blaid ers 9 Awst, ac ni wnaeth apelio yn erbyn y penderfyniad.

Bydd y gwaharddiad yn dod i ben ar 1 Tachwedd ond fe fydd yn dal wedi'i wahardd rhag chwip y blaid, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddo eistedd fel AS annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rob Roberts gipio sedd Delyn oddi ar Lafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf

Cafodd Mr Roberts ei wahardd o DÅ·'r Cyffredin ym mis Mai wedi i ymchwiliad ddod i'r casgliad ei fod wedi torri polisi aflonyddu rhywiol y sefydliad.

Fe wnaeth hynny arwain at alwadau arno i ymddiswyddo, wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddai'n destun deiseb ail-alw - allai fod wedi arwain at isetholiad.

Mae'r llywodraeth a'r wrthblaid wedi cytuno i newid y rheolau, ac er bod Llafur eisiau i'r rheol newydd fod yn weithredol yn erbyn Mr Roberts, mae cadeirydd y panel wnaeth benderfynu ar yr achos yn erbyn yr AS wedi dadlau yn erbyn hynny.

Roedd ffigyrau o fewn y Blaid Geidwadol wedi gofyn i Mr Roberts gadw draw o Dŷ'r Cyffredin ar ôl i'w waharddiad chwe wythnos ddod i ben.

Ond mae wedi ymddangos yn y siambr ers hynny, ac fe gafodd ei heclo gan ASau eraill wrth iddo annerch Boris Johnson yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher.

'Ymddwyn mewn ffordd addas'

Yn dilyn ei waharddiad o DÅ·'r Cyffredin fe wnaeth cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol alw am adolygiad o aelodaeth Mr Roberts.

Fe wnaeth panel disgyblu benderfynu y dylai gael ei wahardd fel aelod am 12 wythnos.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae'r Blaid Geidwadol yn disgwyl i'w haelodau ymddwyn mewn ffordd addas ar gyfer bywyd yn llygad y cyhoedd, ac ni wnaeth ymddygiad Rob Roberts gyrraedd y safon sy'n cael ei ddisgwyl ohono."