Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 41 arall wedi marw o Covid-19 - y nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod yng Nghymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn annog pawb i aros adref dros y Pasg

  • 'Gwrthod offer gwarchod personol (PPE)' i gartrefi gofal o Gymru

  1. Band Ieuenctid Beaumaris yn wynebu colli miloeddwedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae band pres o Ynys Môn yn wynebu colli miloedd o bunnoedd am hediadau i gystadleuaeth sydd wedi'i chanslo.

    Roedd Band Ieuenctid Beaumaris wedi eu henwebu i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Band Pres Ewrop yn Palanga, Lithwania ym mis Mai.

    Roedd wedi talu £9,050 fel blaendal am docynnau awyren i'w cludo yno, ond does dim modd cael yr arian hynny yn ôl am nad yw'r hediadau wedi'u canslo hyd yn hyn.

    Mae cwmni awyrennau SAS yn mynnu y dylai'r band dalu gweddill yr arian am y tocynnau - £4,044 - gan wrthod cyfaddef bod yr hediadau'n debygol o gael ei chanslo.

    Mae SAS yn dweud y byddai'r band yn cael ad-daliad llawn pe bai'r hediadau'n cael eu canslo.

    Band BeaumarisFfynhonnell y llun, Band Beaumaris
  2. Coronafeirws: Y darlun rhyngwladolwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae bron i 90,000 o farwolaethau wedi eu cadarnhau o bobl oedd â'r haint Covid-19 ledled y byd.

    Yn ol ymchwil gan Brifysgol Johns Hopkins mae nifer yr achosion sydd wedi eu cadarnhau yn rhyngwladol bron wedi cyrraedd 1.5 miliwn.

    cvFfynhonnell y llun, bbc
  3. Cadw'n heini 'da Cliffwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Efallai ei fod bellach yn 85 mlwydd oed, ond mae cyn chwaraewr pêl-droed Cymru a Tottenham, Cliff Jones, mewn cyflwr da.

    Ac mae un o arwyr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 am ysgogi eraill i gadw’n heini gartref yn ystod y pandemig gyda fideo o’i ymarferion dyddiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Gwasanaeth Iechyd 'angen help mwy nag erioed'wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Wedi i beldroedwyr Uwch Gynghrair Lloegr gyhoeddi apêl i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig, mae eu cyfoedion yng Nghymru am chwarae eu rhan hefyd,

    Mae capten Aberystwyth, Marc Williams wedi galw ar y gymuned bêl-droed yng Nghymru i gyfrannu’n hael tuag at y GIG ar adeg ble maent "angen help yn fwy nag erioed".

    Mae Williams, gynrychiolodd tîm dan-21ain Cymru, wedi sefydlu tudalen rhodd lle mae modd cyfrannu arian yn ystod y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Angen canfod cariad a goleuni'wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Yn ei neges ar gyfer y Pasg mae Archesgob Cymru wedi annog pobl i ganfod "cariad a goleuni" yn y "gweithgareddau niferus o garedigrwydd a haelioni sy'n digwydd o'n cwmpas".

    Mae'r Archesgob John Davies yn cydnabod bod hi'n amseroedd tywyll ond yn dweud wrth ddioddefwyr bod cariad yn gallu ymddangos ar yr awr dywyllaf.

    Archesgob John Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Archesgob John Davies

  6. Manics yn cefnogi'r GIGwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae The Manic Street Preachers wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cynnal dau gyngerdd arbennig i gefnogi y GIG.

    Bydd un o'r gigs ar gyfer gweithwyr y GIG a bydd elw'r llall yn mynd at elusennau'r GIG.

    Mae'r cyngherddau fod i gael eu cynnal yn Arena Motorpoint Caerdydd ar 4 a 5 o Ragfyr.

    Manics
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Manics yn gobiethio cynnal y cyngherddau ym mis Rhagfyr

  7. 'Erioed wedi gweld dim byd fel hyn'wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Yn ôl cyfarwyddwr meddygol Ysbyty Calon y Ddraig, Stuart Walker, bydd y cleifion a fydd yn dod i'r ysbyty yn y stadiwm yn gleifion a fydd yn gwella.

    "Byddwn ni, i bob pwrpas, yn ysbyty arferol.

    "Rwy i wedi bod yn gweithio i'r GIG am ddegawdau ac wedi bod yn gyfarwyddwr meddygol am flynyddoedd - ond dwi erioed wedi gweld dim byd fel hyn yn fy holl yrfa," meddai.

    Mae Ysbyty Calon y Ddraig yn un o nifer o ysbytai ar draws Cymru sydd wedi cael eu codi yn sgil haint coronafeirws.

    Ymhlith ysbytai newydd eraill mae Venue Cymru yn Llandudno Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint a Pharc y Scarlets yn Llanelli.

  8. Galw am waredu gwastraff yn ddiogelwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Mae cartrefi yn cael eu hannog i waredu eu gwastraff yn briodol ac i beidio â chael eu temtio i losgi gwastraff o'r ardd neu'r tŷ.

    Dywed y gwasanaeth tân fod bron i 4,000 o danau sbwriel yng Nghymru'r llynedd ac mai'r prif achosion oedd bagiau bin o dai, dodrefn a adawyd yn anghyfreithlon a sbwriel, a losgwyd yn fwriadol.

    Yn ôl llefarydd gallai tanau hefyd beryglu pobl fregus yn ystod argyfwng Coronafeirws

    "Gall pobl ag asthma a chlefydau anadlol eraill fynd yn sâl achos mwg tân.

    "Mae'r bobl hyn hefyd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i Covid-19

    ."Peidiwch â gwneud pethau'n fwy anodd iddynt," meddai llefarydd.

    Diffoddwr

  9. Golwg gyntaf ar Ysbyty Calon y Ddraigwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae Stadiwm y Principality yn cael ei thrawsnewid ar hyn o bryd yn ysbyty ar gyfer cleifion sydd â haint coronafeirws.

    Mae lle yn y stadiwm i 2,000 o welyau - gwaith sydd wedi cael ei wneud ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Undeb Rygbi Cymru.

    Mae Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cael mynd i weld y stadiwm ar ei newydd wedd.

    Hwn fydd yr ysbyty fwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yn y DU.

    Yn ystod yr wythnos mae 650 o staff wedi bod yn gweithio ar y safle.

    Enw'r ysbyty yw Ysbyty Calon y Ddraig.

    stadiwm
    calon y ddraigFfynhonnell y llun, bbc
  10. Cyllido'r Llywodraeth yn sgil COVID-19wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae adroddiad newydd gael ei gyhoeddi am ddulliau ariannu'r llywodraeth yn sgil haint coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Rhybudd 'rêfs'wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Fe allai 'rêfs' anghyfreithlon beryglu bywydau ar "amser tyngedfennol ac amser pan ddylai pobl aros gartref ac achub bywydau", yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.

    Mae'r llu yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys i gysylltu â nhw pe bai nhw'n gweld unrhyw beth amheus.

    "Rydym yn gwybod y gallai rêfs achosi pryder i'r gymuned leol, ac os nad ydynt yn cael eu rhwystro yn syth yna maen nhw'n anodd i'w hatal oherwydd nifer y bobl sy'n dod," meddai'r uwch arolygydd Jon Cummins.

    arwydd
  12. 82% o bobl yn cael newyddion am yr haint gan y Â鶹ԼÅÄwedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ôl Ofcom yn cael newyddion am yr haint ar wasnaethau'r Â鶹ԼÅÄ ond 'dyw un o bob pump ddim am gael unrhyw newyddion am y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Penderfyniad anodd i Forgannwg'wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Eisoes ry'n wedi clywed am bêl-droedwyr yn cyfrannu arian i weithwyr y GIG.

    Mae cricedwyr Morgannwg hefyd wedi dod i benderfyniad am eu cyflogau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Angen siarad yn blaen â'r cyhoedd'wedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn dweud ei "bod yn bwysig siarad yn blaen â'r cyhoedd" ar drothwy penwythnos y Pasg a bod yn rhaid i bawb wybod bod y cyfyngiadau presennol yn parhau wythnos nesaf.

    Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd Mr Gething: "Rhaid cyflwyno'r neges yn glir - mae'n bwysig bod y bobl sydd wedi ymdrechu i newid patrwm eu bywydau yn ystod yr wythnosau diwethaf ddim yn gwneud dewisiadau gwahanol ar benwythnos gŵyl y banc."

    Ychwanegodd bod y cyfyngiadau yn debygol o bara am rai wythnosau.

    "Os ydym yn rhoi'r argraff i bobl ein bod yn ystyried dod â'r cyfyngiadau i ben - yna fe fydd pobl yn gwneud eu dewisiadau ar sail hynny."

    Ychwanegodd ei fod yn gwbl annhebygol y byddai gwyddonwyr yn dweud wrth lywodraethau'r DU ei bod yn ddiogel i ddod â'r mesurau cyfyngu i ben ar hyn o bryd.

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn siarad yn y Senedd yn gynharach eleni

  15. 'Mwy i'w gyflawni,' medd y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Prif Weinidog yn cadarnhau mewn neges fideo na fydd y cyfyngiadau presennol yn dod i ben wythnos nesaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Arestio am yfed a gyrruwedi ei gyhoeddi 08:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi arestio gyrrwr am yfed a gyrru.

    Mae swyddogion yng Ngheredigion wedi trydar bod "staff y GIG o dan bwysau ar hyn o bryd a bod ymddygiad o'r fath yn gwbl hunanol.

    "Afraid dweud bod hon yn siwrne nad oedd yn angenrheidiol."

  17. Yn dawel ar y ffyrdd - 'diolch'wedi ei gyhoeddi 08:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae ffyrdd y Gogledd a'r Canolbarth yn dawel ac mae Traffig Cymru yn diolch i bawb am aros adref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Pêl-droedwyr yn cyfrannu arianwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Cronfa yn cael ei sefydlu gan chwaraewyr pêl-droed i gyfrannu arian i'r GIG.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Ydi mae'n Ddydd Iau Cablyd a dyma'r cyngor...wedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Golchi dwylo sy'n bwysig eleni.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Ddim wedi gweld cydweithio tebyg'wedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae Gweinidog Cymru, David TC Davies, yn dweud bod gwleidyddion o bob plaid yn cydweithio yn y frwydr yn erbyn coronafeirws a "dwi ddim wedi gweld cydweithrediad tebyg o'r blaen" ychwanegodd.

    Dywedodd AS Mynwy hefyd ei bod yn "glir y bydd y cyfyngiadau presennol yn parhau am y tro."

    Daw ei sylwadau cyn i gyfarfod brys pwyllgor Cobra gael ei gynnal - cyfarfod a fydd yn trafod y dystiolaeth ddiweddara am y pandemig.

    David TC Davies