Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 41 arall wedi marw o Covid-19 - y nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod yng Nghymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn annog pawb i aros adref dros y Pasg

  • 'Gwrthod offer gwarchod personol (PPE)' i gartrefi gofal o Gymru

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi'r diweddara' am weddill y noson ar ein gwefan.

    Hwyl am y tro.

  2. Cydnabod cyfraniad gweithwyr iechydwedi ei gyhoeddi 18:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Neuadd y DdinasFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

    Fel rhan o'r ymgyrch gyhoeddus i ddangos cefnogaeth i weithwyr iechyd am 20:00 bob nos Iau, fe fydd purfa olew Valero yn Sir Benfro yn seinio ei larwm heno.

    Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi cyhoeddi y bydd castell enwog y dref yn cael ei oleuo yn las, a bydd rhan o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd hefyd yn rhoi goleuadau arbennig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Tawel ar y ffyrdd yn y dewedi ei gyhoeddi 18:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Meddygon eisiau helpu, ond yn methu dros reolau iaithwedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Y DU'n cadarnhau na fydd cyfyngiadau'n cael eu codiwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Cyhoeddiad Cymru i barhau â'r cyfyngiadau wedi synnu Llundain, ond y mesurau i barhau mewn grym.

    Read More
  6. Beth fydd y drefn i fyfyrwyr BTEC?wedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Ry' ni'n gwybod sut fydd Safon Uwch a TGAU yn cael eu graddio haf 'ma ond beth am gymwysterau galwedigaethol fel BTEC?

    Mae'r corff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau, Cymwysterau Cymru, wedi dweud bydd myfyrwyr Safon Uwch, AS, TGAU a'r Fagloriaeth yn derbyn gradd ar sail gwaith mae nhw eisoes wedi ei wneud a barn athrawon.

    Ond mae cymwysterau galwedigaethol fel arfer yn cael eu hasesu mewn ffyrdd mwy ymarferol.

    Dydy'r wybodaeth ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru ddim yn cynnig yr atebion i gyd, ond mae'n dweud y bydd disgyblion BTEC yn cael canlyniad wedi ei gyfrifo ar sail gwahanol dystiolaeth, gan gynnwys mewnbwn athrawon pan mae hynny'n addas.

    Fe allai canlyniadau cymwysterau eraill sy'n cael eu gwneud gyda, neu yn lle, TGAU a Safon Uwch, a sy'n bwysig ar gyfer symud mlaen i addysg bellach neu uwch, dderbyn canlyniad tebyg hefyd.

    Ond yn ôl Cymwysterau Cymru mae "cymhlethdod y tirwedd cymwysterau galwedigaethol" yn golygu nad yw un dull yn bosib ac felly bydd myfyrwyr sy'n astudio rhai pynciau technegol neu alwedigaethol yn gorfod aros yn hirach i gael gwybod beth sy'n digwydd i'w cyrsiau a'u tystysgrifau.

  7. Raab: 'Arwyddion bod cyfyngiadau'n gweithio'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Ychwanegodd Mr Raab bod Llywodraeth y DU yn dal i gasglu data er mwyn asesu effaith y mesurau ynysu.

    "Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu eu bod yn cael effaith," meddai, ond dywedodd ei fod yn rhy gynnar i fod yn sicr.

    Mae'n dweud y bydd y mesurau'n aros mewn grym tan fod tystiolaeth i ddangos ein bod wedi mynd heibio'r gwaethaf.

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y bydd y cyfyngiadau'n cael eu hymestyn yma.

  8. Raab: Johnson mewn 'hwyliau da'wedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae Ysgrifennydd Tramor y DU wedi dweud bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn gwneud "camau positif" wrth iddo dderbyn triniaeth am y coronafeirws.

    Ar ddechrau'r gynhadledd ddyddiol yn San Steffan, dywedodd Dominic Raab bod Mr Johnson yn parhau i dderbyn gofal dwys, ond ei fod yn gwella ac mewn "hwyliau da".

    Raab
  9. Troi gwesty'r Fro yn ysbyty dro drowedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae gweithwyr wrthi yn trawsnewid Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg yn ysbyty dros dro.

    Y nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 27 Ebrill, ac aeth Huw Thomas i weld yr adeiladwyr oedd ar y safle yn gynharach heddiw.

    Mae'r gwesty yn fwy enwog fel lleoliad ar gyfer sesiynau hyfforddi carfan rygbi Cymru.

    Disgrifiad,

    Ysbyty dros dro ger Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg

  10. Uned sgrinio yn dweud diolchwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Twitter

    Staff tîm sgrinio ar gyfer Covid-19 yn y gorllewin yn dweud diolch wrth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin am offer diogelwch.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'Mae'n anodd i'r plant ac i Steve'wedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae dyn tân o Wrecsam sydd wedi dal covid-19 yn edrych ymlaen am "gael cwtsh gyda'i deulu", yn ôl ei wraig.

    Mae Stephen Landon, 39, wedi bod yn derbyn gofal dwys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers cael ei daro'n wael gyda symptomau'r feirws bythefnos yn ôl.

    Dywedodd ei wraig Becky: "Dyma'r trydydd tro iddo fynd yn ôl i'r uned gofal dwys.

    "Dyna'r ffordd mae'r feirws yn mynd, maen nhw'n gwella, ac wedyn yn gwaethygu eto."

    Mae gan y cwpl bedwar o blant, a dywedodd Mrs Landon ei fod yn anodd iawn arnyn nhw.

    "Mae'r 'fengaf yn gofyn bob bore - ydy Dad yn dod adref heddiw?

    "Mae'n anodd i'r plant ac i Steve."

    Stephen LandonFfynhonnell y llun, Stephen Landon
  12. Dim presgripsiwn i breswylwyr ail gartrefiwedi ei gyhoeddi 16:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.
    Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.

    Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n darparu meddyginiaethau presgripsiwn rheolaidd i breswylwyr dros dro.

    Yn ôl y bwrdd iechyd fe fydd ceisiadau presgripsiwn gan bobl sydd wedi adleoli i ail gartrefi neu gartrefi gwyliau yn cael eu gwrthod a'r unigolion yn cael eu cyfeirio at ei meddygfa arferol.

    Daw'r cyhoeddiad wedi i densiynau godi mewn sawl rhan o Gymru sydd â niferoedd uwch o ail gartrefi a chartrefi gwyliau.

  13. Neges prif gwnstabl i gadw drawwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae prif gwnstabl ynghyd â phennaeth un o gynghorau sir Cymru wedi anfon neges glir i ymwelwyr a pherchnogion tai haf i gadw draw yn ystod gwyliau'r Pasg.

    Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, y byddant y stopio ceir a'u hanfon yn ôl gartref.

    "Rydym yn cadw llygad. Rwy'n ymwybodol fod yna bobl yn teithio liw nos ac ar hewlydd bach. Ond byddwn ni yno hefyd."

    Dywedodd Ian Westley, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, fod yna bobl yn anwybyddu negeseuon y llywodraeth. Roedd yna rybudd ganddo i'r rhai sydd am roi llety.

    "Rydym yn gwybod fod rhai yn teithio fin nos i geisio curo'r system. Ond rydym yn rhannu’r wybodaeth yma' gyda'r heddlu."

    "Fe fyddwn yn gweithredu."

    Mark Collins ac Ian Westley
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Collins ac Ian Westley

  14. Rhybudd diogelu yn erbyn sgamiauwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Conwy

    Mae Cyngor Conwy'n rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwraeth ar hyn o bryd wedi adroddiadau o bobl yn manteisio ar y pandemig i weithredu sgamiau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Canolfan brofi Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi agorwedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae'r ganolfan gyntaf lle gellir gael prawf drwy ffenest y car wedi agor a hynny yn Stadiwm Dinas Caerdydd - cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Y map diweddarafwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi newid yr amser y maen nhw'n casglu ffiygrau achosion newydd o coronafeirws, mae nifer yr achosion newydd ddydd Iau yn llawer is na'r ffigwr arferol.

    Bydd ffigwr dydd Gwener yn adlewyrchiad fwy cywir, ond dyma'r map cyfredol o nifer yr achosion ymhob awdurdod lleol trwy Gymru.

    map
  17. Bywyd ar 'lockdown' yn Fietnamwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Wythnosau ar ôl cyrraedd Fietnam mae Cadi Mai o Ben Llŷn yn gaeth i'w fflat yn Hanoi

    Read More
  18. Ffigyrau Lloegrwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae NHS Lloegr wedi cofnodi 765 o farwolaethau newydd o haint coronafeirws ond mae'n debyg mai 140 ohonynt ddigwyddodd ddoe.

    Nodir bod 568 wedi digwydd rhwng 1 Ebrill a 7 Ebrill a bod y 57 arall wedi digwydd ym mis Mawrth.

  19. Gostyngiad cyflog Balewedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Gareth Bale yw un o'r chwaraewyr diweddaraf i ddweud ei fod yn fodlon gymryd gostyngiad yn ei gyflog.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnodwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Bu farw 41 o bobl yng Nghymru gyda'r coronafeirws yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau.

    Dyna'r ffigwr dyddiol uchaf ers i'r pandemig ddod i Gymru, fel mae'r graff isod yn dangos.

    marwolaethau