Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 41 arall wedi marw o Covid-19 - y nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod yng Nghymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn annog pawb i aros adref dros y Pasg

  • 'Gwrthod offer gwarchod personol (PPE)' i gartrefi gofal o Gymru

  1. Dartiau nôl ym mis Gorffennafwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Stadiwm Principality ar ei newydd weddwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Yng Nghaerdydd, mae'r paratoadau yn cael eu cwblhau ar gyfer y gwaith o ailagor Stadiwm Pricipality fel ysbyty ar gyfer cleifon Covid-19 - Ysbyty Calon y Ddraig.

    Disgrifiad,

    Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality

  3. Targed posib i gynghrair pêl-droedwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Twitter

    Cynghrair Pêl-droed Lloegr yn dweud y bydd modd gorffen y tymor mewn cyfnod o 56 diwrnod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 41 yn fwy wedi marw gyda Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 41 yn fwy o bobl wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm y meirw yma i 286.

    Yn ogystal mae 16 o achosion newydd o'r haint wedi'u cofnodi yng Nghymru ers y diweddariad diwethaf ddoe, ond oherwydd newid yn y ffordd mae'r ffigyrau'n cael eu mesur mae'r nifer yna yn llai na'r arfer.

    Cyfanswm yr achosion yng Nghymru bellach yw 4,059, ond mae ICC yn cydnabod bod y gwir nifer yn debygol o fod yn uwch na hynny.

  5. Canllawiau i gyflogwyr a gweithwyrwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Pa arian ry'ch yn gymwys i'w dderbyn? Mae canllaw yma gan Lywodraeth San Steffan.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Golwg ar ysbyty newydd yn y Frowedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Yn gynharach fe welsom luniau o'r ysbyty newydd sy'n cael ei chreu yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

    Mae ein gohebwyr hefyd wedi bod mewn ysbyty newydd arall yng Ngwesty'r Fro, Hensol.

    Mae'r ganolfan hyfforddi yn gartref i garfan rygbi Cymru fel arfer, ond pan fydd yr ysbyty yn agor ar 27 Ebrill, bydd lle i 255 o gleifion dros wyth ward. Bydd y gwesty ei hun yn gwneud bwyd i staff a chleifion, ac yn cynnig llety i staff.

    Ysbyty Gwesty'r Fro
  7. Yr heddlu yn cadw golwgwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn stopio ceir ar ffordd ddeuol yr A40 yn Sanclêr fore Iau, i sicrhau fod pob taith yn un angenrheidiol.

    Yr A40 yw'r brif lon ar gyfer ymwelwyr sy'n teithio i draethau de Sir Benfro.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Coronafeirws: Cynyddu nifer y profionwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Yn ôl Dr Goodall mae yna o hyd wahaniaeth rhwng nifer y profion y gellid eu gwneud ar gyfer Covid-19 a nifer y profion sy'n cael eu gwneud.

    Dyma, meddai, y rheswm tu cefn i'r anghysondeb rhwng y ffigyrau.

    Ychwanegodd Dr Goodall fod dros 3,500 o weithwyr iechyd wedi derbyn prawf, cynnydd o tua 2,000.

    Dywedodd y byddai nifer y profion yn cynyddu.

  9. Cyhuddo Cymru o gyhoeddi yn rhy fuanwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae ffynhonnell o lywodraeth San Steffan wedi cyhuddo gweinidogion Llywodraeth Cymru o gyhoeddi yn rhy fuan estyniad i'r cyfyngiadau a ddaeth yn sgil coronafeirws.

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford a'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud y bydd y cyfyngiadau yn para am "nifer o wythnosau eto".

    Mae un ffynhonnell o lywodraeth San Steffan wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod "hi'n syndod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau cyn y cyfarfod COBR [cabinet office briefing rooms] yn hwyrach heddiw - cyfarfod sy'n trafod sut mae'r DU yn delio â'r haint.

    Yn ôl y ffynhonnell roedd yna alwad ar y cyd wedi bod rhwng y Prif Weinidog, Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cymru Simon Hart a'r gweinidog Michael Gove a'r penderfyniad oedd y dylai'r DU ddod i benderfyniad ar y cyd am y cyfyngiadau.

  10. Hanner meddygfeydd Cymru yn gweithredu dros y Pasgwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd yr ysbyty yn Stadiwm Principality yn dechrau cymryd cleifion ddydd Sul.

    Ychwanegodd prif weithredwr GIG Cymru y bydd hanner o feddygfeydd Cymru yn weithredol dros benwythnos y Pasg.

  11. Coronafeirws: Diogelu staff ambiwlanswedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Goodall wrth y gynhadledd i'r wasg fod un ym mhob pedwar o alwadau 999 yn ymwneud â coronafeirws.

    Roedd Dr Goodall yn bryderus nad yw pobl sydd â symptomau yn dweud wrth staff yr ambiwlans.

    "Mae hynny'n golygu fod ein criwiau mewn risg, ond bod modd osgoi hynny.

    "Plis dwedwch wrthym a byddwn ni yn sicrhau eich bod yn cael yr ymateb sydd ei angen ond hefyd yn sicrhau bod ein staff yn ddiogel."

    Andrew Goodall
  12. 'Dros 800 claf mewn ysbyty'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Andrew Goodall wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr: "Mae 816 o gleifion sydd wedi cael prawf positif o coronfeirws yn ysbyty ar hyn o bryd a chredir bod 344 achos arall o'r haint.

    "Mae llawer mwy o bobl adref â'r haint - dydyn nhw ddim angen gwely mewn ysbyty."

  13. Coronafeirws: Ysbytai preifatwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Goodall fod y gwasanaeth iechyd wedi dechrau defnyddio adnoddau ysbytai preifat.

    Roedd yna 152 o wlâu ychwanegol ar gael, ynghyd â staff ychwanegol.

    Dywedodd y byddai datblygaid yr ysbytai dros dro yn golygu y byddai yna 7,000 o welyau ychwanegol ar gael yn y 10 i 12 diwrnod nesaf.

  14. Coronafeirws: Cynhadledd y wasgwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae yna 369 o wlâu argyfwng ar gael ar gyfer cleifion yng Nghymru yn ôl Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Andrew Goodall.

    Yn y gynhadledd i'r wasg dyddiol ddydd Iau dywedodd fod tua 50% o'r rhain ar gael, tra bod tua un ym mhob tri yn trin cleifion a choronafeirws.

    Ychwanegodd ei fod ef ynghyd ag eraill wedi llofnodi llythyr agored at bobl Cymru heddiw yn gofyn iddynt lynu at y mesurau arbennig ar aros yn eu cartrefi er mwyn achub bywydau.

    AmbiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Cynhadledd ddyddiol y Llywodraeth wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, sy'n siarad heddiw.

  16. Dros 15,000 wedi marw yn Sbaen bellachwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae nifer y marwolaethau o haint coronafeirws yn Sbaen wedi codi i 15,238 ond mae'n ymddangos bod nifer yr achosion newydd yn gostwng.

    Yn ôl y data diweddaraf fe gofnododd Sbaen 683 marwolaeth o'r haint dros nos - roedd y nifer ddoe yn 757.

  17. Cyngor i artistiaid ac ymarferwyr creadigolwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Cyngor Celfyddydau Cymru

    Bydd Cronfa Cyngor y Celfyddydau ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr creadigol sy'n wynebu caledi ariannol yn agor wythnos nesaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Croesawu penderfyniad Airbnbwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi croesawu penderfyniad Airbnb i roi'r gorau i dderbyn unrhyw archebion pellach.

    Dywedodd AS Arfon, Hywel Williams, ei fod wedi derbyn llythyr gan y cwmni yn dweud na fyddant yn derbyn unrhyw archebion ar ôl 09:00 ddydd Iau tra bod y mesurau argyfwng yn parhau.

    Dywedodd Mr Williams fod nifer o berchnogion wedi bod yn anghyfrifol drwy ddefnyddio safle we air Airbnb i hysbysebu llety yng Nghymru ar gyfer cwarantin.

    "Nawr mae'n rhaid i Airbnb fynd gam ymhellach a chanslo pob un o'u harchebion, gan gynnwys rhai sydd eisoes wedi eu gwneud ar gyfer gwyliau'r Pasg."

    Hywel Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Hywel Williams

  19. Cadw Gŵyl Bentan!wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Geiriadur Prifysgol Cymru

    Dyma ymadrodd y dydd gan Eiriadur Prifysgol Cymru heddiw - ac mae'n gyngor amserol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Mortiwari dros drowedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer codi mortiwari dros dro yn y gogledd er mwyn darparu ar gyfer cynnydd uchel posib yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i coronafeirws.

    Byddai'r safle yn cael ei baratoi mewn unedau diwydiannol ar Barc Masnach Mochdre yn Sir Conwy ac yn cael ei ddefnyddio pe na bai ysbytai a threfnwyr angladdau yn gallu ymdopi.

    Mae chwech o gynghorau sir y gogledd wedi bod yn cydweithio gyda'r heddlu, llysoedd y crwner, cofrestrwyr a threfnwyr angladdau wrth ddarparu'r safle.

    "Y nod yw lleihau'r pwysau ar amlosgfeydd a mynwentydd y rhanbarth," meddai llefarydd.

    MochdreFfynhonnell y llun, Google