鶹Լ

Crynodeb

  • Pedwar arall wedi marw yng Nghymru - 16 i gyd

  • 418 achos wedi'u cadarnhau yma bellach, ond yn debygol fod y ffigwr yn uwch

  • 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" i gael cyfarwyddyd i aros yn eu cartrefi am 12-16 wythnos

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru: 'Awdurdodau wedi ennill amser yn y frwydr yn erbyn Covid-19, ond niferoedd y bobl yn ei ddal ar gynnydd'

  1. 'Anffodus' fod pobl yn mynd allan i'r haulwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Wales

    Mewn cyfweliad gyda 鶹Լ Radio Wales fore Llun, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, nad oedd y neges am ymbellhau cymdeithasol wedi bod yn ddigon cryf dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd yn credu fod y neges bellach yn taro deuddeg.

    Roedd hefyd o’r farn fod yr awdurdodau wedi ennill amser yn y frwydr yn erbyn yr haint, ond fod niferoedd y bobl oedd yn ei ddal ar gynnydd.

    Ychwanegodd fod tywydd braf y penwythnos wedi cyfrannu at y nifer fawr o bobl oedd wedi heidio allan i leoliadau poblogaidd i fwynhau ychydig o’r heulwen, a bod hyn wedi bod yn "ganlyniad anffodus".

  2. Cymro ar y cae chwarae - yn Awstraliawedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Joe LedleyFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ben arall y byd, mae'r Cymro Joe Ledley wedi bod yn chwarae i'w dîm newydd Newcastle Jets yn erbyn Melbourne City.

    Mae'r gêm yn digwydd heb y cefnogwyr yn bresennol oherwydd y pandemig - ond mae'n rhyfedd gweld digwyddiad yn mynd yn ei flaen o gwbl y dyddiau yma!

  3. Paratoi gwelyau ychwanegol yn y gorllewinwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cannoedd o welyau ychwanegol, rhag ofn bydd eu hangen ar y gwasanaeth iechyd dros yr wythnosau nesaf.

    Dros y dyddiau nesaf, bydd contractwyr yn cael eu comisiynu i greu llefydd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin a Chanolfan Selwyn Samuel.

    Mae Parc y Scarlets hefyd wedi cynnig rhan helaeth o'i safle ac adeiladau am ddim i'r awdurdod lleol i'w haddasu at ddefnydd y GIG.

    Dywedodd y cyngor eu bod yn paratoi ac ymateb i "heriau nad ydym wedi gweld eu tebyg o'r blaen".

    "Bydd darparu'r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i'n helpu i reoli llif y cleifion dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth rydym yn ei gael gan yr awdurdod lleol, sy'n bartner i ni, i helpu i wneud i hyn ddigwydd," meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Hywel Dda.

    "Rydym wedi cadw llygad barcud ar y sefyllfa yn yr Eidal i ddysgu lle bo modd ac i helpu wrth i ni gynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi dweud bod llif y cleifion yn ffactor allweddol wrth ymateb i'r pwysau mae COVID-19 yn ei roi ar y system."

    Parc y ScarletsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Parc y Scarlets wedi cynnig y safle am ddim i'r cyngor i'w haddasu at ddefnydd y gwasanaeth iechyd

  4. 'Arhoswch gartref' yw'r neges symlwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn erfyn ar bobl i aros yn eu cartrefi er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid-19.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Gohirio Senedd Ieuenctid Cymruwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu ddoe y bydd holl waith Senedd Ieuenctid Cymru o ymgysylltu â'r cyhoedd o 17 Mawrth tan 26 Ebrill yn cael ei ohirio tan 26 Ebrill.

    Fe wnaeth y senedd 60 o bobl ifanc - 40 wedi'u hethol mewn pleidlais ar-lein a'r gweddill gan sefydliadau ac elusennau - gyfarfod am y tro cyntaf fis Chwefror y llynedd.

    Nawr mae wedi gorfod canslo nifer o gyfarfodydd a drefnwyd oherwydd y pandemig.

  6. Rhoi stop ar achosion llys gyda rheithgorwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bydd pob achos llys gyda rheithgor yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ohirio fel rhan o ymdrechion parhaus i atal lledaeniad Covid-19.

    Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Burnett, na fydd unrhyw achosion newydd yn cychwyn ac y bydd rhai sydd eisoes wedi dechrau yn cael seibiant tra bydd trefniadau ar waith fel y gallan nhw barhau’n ddiogel.

    Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd yr Arglwydd Burnett - y barnwr uchaf yng Nghymru a Lloegr - na fyddai unrhyw achosion newydd sy'n debygol o bara tridiau neu fwy yn mynd yn eu blaen.

    Ond - wrth i aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol roi pwysau ar y llywodraeth i atal gwrandawiadau llys - cymerwyd y cam rhyfeddol o atal pob achos newydd.

  7. Neges gan bêl-droedwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cwestiwn ar ran yr athrawonwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Mae Huw Lewis yn athro yn ardal Pen-y-bont – ei gwestiwn i’r Post Cyntaf oedd sut oedd modd i athrawon addasu gwaith i gydymffurfio gyda’r cwricwlwm newydd o gofio fod y tymor addysg wedi ei gwtogi bellach?

    Mewn ymateb dywedodd Dafydd Evans: “Mi ydan ni yn edrych at ffyrdd o fod yn broffidiol hefo’n amser hefo’n athrawon ac hyn yn cynnig addysg o bell i ddysgwyr.

    “Mi rydan ni hefyd yn edrych ar hyfforddiant e-ddysgu i athrawon…ac yn meddwl fod modd cael trafodaeth broffesiynol ac addysgiadol ar Facetime."

    Gwrandewch yn ôl ar raglen y Post Cyntaf heddiw.

  9. Rhybudd i filoedd aros gartrefwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bydd 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" yn cael eu cynghori drwy lythyr heddiw i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos.

    Dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford ddoe na ddylai'r bobl dan sylw adael eu tai o gwbl.

    Hyd yma mae 12 o bobl yng Nghymru wedi marw ar ôl cael coronafeirws.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

  10. 'Sut fydd graddau’n cael eu ffurfio eleni?'wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Cwestiwn gan Glain Llwyd o Landre ger Aberystwyth nesaf, sydd yn ddisgybl ysgol, ond adref ar hyn o bryd o achos coronafeirws.

    Ei chwestiwn yw: “Sut fydd y graddau’n cael eu ffurfio eleni?”

    Mewn ymateb, dywedodd Dafydd Evans, cadeirydd Colegau Cymru: “Rydym wedi cael ychydig o ganllawiau yr wythnos ddiwethaf yn rhoi amlinelliad o’r broses – mi fyddwn yn medru defnyddio nifer fawr o dystiolaeth i gyrraedd y radd – mocs, gwaith cwrs a barn yr athro. Sut fydd hyn yn gweithio? Rydym yn disgwyl canllawiau clir gan y byrddau arholi yn ddiweddarach."

  11. 'Tri o blant yn yr ysgol'wedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Dywedodd Meurig Jones, prifathro Ysgol Llangynwyd ym Mhen-y-bont wrth y Post Cyntaf: “Mae 'na gofrestr wedi bod heddi’ a tri o blant yn unig sydd wedi cael eu rhoi lawr – felly beth sydd wedi digwydd ym Mhen-y-bont yw ein bod wedi ein rhoi mewn hybiau arbennig.

    “'Da ni wedi rhoi pethau yn eu lle i wneud yn siŵr fod staff yn ddiogel…gyda dros 100 o staff yma i gynorthwyo mae’n dangos fod staff yn fodlon cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosib."

  12. 'Ydy hi'n iawn i mi fynd i'r ardd?'wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Dywedodd y Cynghorydd Chris Thomas o Sir Benfro: “Braidd yn hunanol yw’r ymwelwyr. Yn Sir Benfro mae rhwng 3,500 a 4,000 o dai haf gyda ni. I gael eu gwasanaeth iechyd lleol rhaid iddyn nhw aros yn eu prif gartrefi.”

    Mewn ymateb, dywedodd y Dr Dai Lloyd fod y sefyllfa yn “botensial cyflafan”.

    "Rydyn ni mewn rhyfel ac mae eisiau dechrau meddwl am bobl eraill nid dim ond chi eich hun… aros adref os nad oes ganddo chi reswm called penodol dros fynd drwy’r drws yna," meddai.

    Mae John Rhys Owen o Lanberis yn ei 80au ac yn gofyn i Dr Dai Lloyd os oedd yn iawn iddo fynd i’r ardd?

    “Mae’n iawn i chi,” meddai Dr Lloyd, “awyr iach ie, ar eich pen eich hunain, yn berffaith saff."

  13. 'I'r llywodraeth - sortiwch hyn allan'wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi dweud fod trafferth wedi codi rhwng pobl leol ag ymwelwyr ar yr ynys dros y penwythnos.

    Dywedodd mewn nos Sul: “Yn ystod y noson fe fu arestiadau yn Rhosneigr. Roedd rhai pobl oedd yn ceisio cael ymwelwyr oedd wedi dod i’r ardal i ddychwelyd adref yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.

    “Os gwelwch yn dda peidiwch â gwneud hyn – rhaid i ni gael trefn ar y sefyllfa mewn ffordd gywir.

    “I’r llywodraeth – sortiwch hyn allan. Sortiwch hyn allan os gwelwch yn dda, a rhowch orchymyn eglur mewn grym y dylai pobl yn y cyfnod yma yn eu prif gartrefi dderbyn cymorth, os ydyn nhw’n ddigon anlwcus i fod ei angen, gan eu darparwr GIG lleol."

    Ychwanegodd: “Nid oes ganddo ni’r adnoddau yma i ddarparu ar gyfer poblogaeth chwyddedig ddiangen.

    "Rhaid i bawb fod yn rhesymol ond mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu ac mae’n rhaid i hyn ddigwydd nawr."

    Awdurdod Parc Cenedlaethol EryriFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes parcio Pen-y-Pass yn orlawn ddydd Sadwrn

  14. 'Angen plismyn i anfon pobl o dai haf'wedi ei gyhoeddi 08:46 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Cofiwch am y drafodaeth sydd newydd gychwyn ar raglen y Post Cyntaf ar y sefyllfa gyda coronafeirws.

    Y cyntaf i roi ei barn yw Christine Davies o Langrannog. Fe ddywedodd y dylai fod y llywodraeth wedi “dihuno lan cyn nawr".

    "Ers pythefnos mae’r ymwelwyr wedi dod i’r tai haf a charafanau," meddai.

    “Mae’n hen bryd i’r Cynulliad hala plismyn i anfon pobl mas o’u tai haf… dyw e ddim yn deg a mae’n rhaid i rhywun wneud rhywbeth."

    Gwrandewch yn fyw drwy glicio yma.

  15. Undeb athrawon: 'Peidiwch â drysu ‘ysbryd Dunkirk’ gyda ffolineb'wedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae undeb athrawon yng Nghymru’n pryderu y gall gormod o rieni geisio cadw eu plant mewn ysgolion pan nad oes angen gwneud hynny yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Gallai hyn effeithio ar y frwydr yn erbyn ymlediad y feirws, medd undeb yr NAHT.

    Galwodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Paul Whiteman, ar rieni “i adael eich plant yn yr ysgol dim ond os nad oes dewis arall gennych chi”.

    Ychwanegodd: “Mae pob ysgol wedi cau er mwyn atal ymlediad y feirws. Dwn i ddim sut mae dweud hyn yn ddigon cryf. Fe ddylai cymaint o blant ag sydd yn bosib gadw draw o’r ysgol ddydd Llun. Byddai peidio gwneud hyn yn peryglu iechyd eich teulu ag ymateb llwyddiannus i Covid-19.

    “Peidiwch â drysu ‘ysbryd Dunkirk’ gyda ffolineb,” meddai.

    Apeliodd ar gyflogwyr i beidio â dadansoddi’r rhestr o weithwyr hanfodol mewn modd llac er mwyn elwa o gadw staff yn y gwaith.

  16. Newid i amserlenni bws a thrênwedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bydd llai o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus trwy Gymru o heddiw ymlaen.

    Mae amserlenni newydd bellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwasanaethau bws a threnau.

    Dywed cwmnïau trafnidiaeth bod y newidiadau yn dod i rym oherwydd llai o alw a llai o staff am fod pobl yn ymateb i'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.

    Ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn cael teithio am ddim o ddydd Llun tan ddiwedd mis Ebrill.

    tren yn wagFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Anfonwch eich cwestiynauwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    鶹Լ Radio Cymru
    Post Cyntaf

    Bore 'ma, am 08:30, bydd cyfle i chi ffonio arbenigwyr mewn rhifyn estynedig o'r Post Cyntaf ar 03703 500500 ar 鶹Լ Radio Cymru.

    Dylan Jones fydd yn cyflwyno eich cwestiynau i westeion - yn eu plith Dr Dai Lloyd a Dafydd Evans, cadeirydd Colegau Cymru.

    Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiynau am y sefyllfa ddiweddaraf gyda coronafeirws.

  18. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddechrau wythnos arall o drin a thrafod coronafeirws.

    Arhoswch gyda ni am y newyddion diweddaraf...