Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Pedwar arall wedi marw yng Nghymru - 16 i gyd

  • 418 achos wedi'u cadarnhau yma bellach, ond yn debygol fod y ffigwr yn uwch

  • 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" i gael cyfarwyddyd i aros yn eu cartrefi am 12-16 wythnos

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru: 'Awdurdodau wedi ennill amser yn y frwydr yn erbyn Covid-19, ond niferoedd y bobl yn ei ddal ar gynnydd'

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.

    Gallwch weld beth fydd gan Boris Johnson i'w ddweud yn nes ymlaen heno ar hafan Cymru Fyw, ac mae diswyl cyhoeddiad wedi hynny gan brif weinidog Cymru, Mark Drakeford.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall bore fory gan ddechrau tua 08:15. Ymunwch gyda ni bryd hynny, ond hwyl fawr am y tro.

  2. Boris Johnson i annerch y DUwedi ei gyhoeddi 18:07 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bydd prif weinidog y DU, Boris Johnson yn gwneud anerchiad ar y teledu heno am 20:30.

    Fe fydd yn cyhoeddi mesurau pellach i ddelio gyda coronafeirws.

    Bydd ei ddatganiad yn cael ei ddarledu ar Â鶹ԼÅÄ1 a rhwydweithiau eraill.

  3. Post Cyntaf yforywedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

    Gallwch ffonio'r Post Cyntaf bore fory rhwng 08:30 a 9 gyda'ch cwestiynau am coronafeirws.

    Y cyfrifydd Huw Roberts fydd yn ateb cwestiynnau gan bobl busnes a phobl hunan gyflogerdig, gyda'r Dr Dai Lloyd yn dychwelyd eto i ateb cwestiynau meddygol.

    Bydd manylion llawn ar ein llif byw ni bore fory.

  4. Anhygoel!wedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Twitter

    Adroddiadau bod ymwelwyr wedi bod yn dwyn nwyddau hylendid a thermometrau o ysbyty yn ardal Castell-nedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cwpl wedi'u 'gadael yn y wlad waethaf am Covid-19'wedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Â鶹ԼÅÄ Wales News

    Mae cwpl o Gymru wedi cyhuddo cwmni mordeithiau o'u gadael yn "y wlad waethaf yn y byd o ran coronafeirws".

    Doedd teithwyr ar y Costa Pacifica ddim yn gallu gadael y llong yr wythnos ddiwethaf ar ôl i Ffrainc wahardd mynediad i'r wlad i unrhyw deithiwr sydd ddim yn Ffrancwyr.

    Llwyddodd Julia a David Hann o Gaerdydd i adael y llong yn y diwedd, ond yna fe gafon nhw eu gadael ym maes awyr Rhufain am 11 awr yn disgwyl am awyren gartref.

    Mae'r Eidal wedi cael mwy o farwolaethau nac unrhyw wlad arall yn sgil coronafeirws, gyda 4,827 wedi marw yno hyd yn hyn.

    Teulu Hann
  6. Cau meysydd chwarae Ceredigionwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Ceredigion

    Ceredigion yw'r sir diweddaraf i gau ei holl gaeau chwarae. Daeth datganiad sy'n dweud:

    "Nid yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd gan eu bod yn lefydd i bawb eu mwynhau. Er hyn, mae’n debyg eich bod wedi sylwi bod pobl yn parhau i ymgynnull mewn parciau chwarae ac ardaloedd cymunedol.

    "Mae’n rhaid i ni ddiogelu ein cymunedau ag ymdrechu i sicrhau bod pobl yn cadw draw o leoedd lle gallant ddod at ei gilydd, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd.

    "Mae’r cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob perchennog/rheolwr maes chwarae yng Ngheredigion sicrhau bod y gymuned yn cadw o’r lle chwarae."

  7. Prif weithredwr URC yn aroswedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Undeb Rygbi Cymru

    Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno i aros yn ei swydd am y dyfodol rhagweladwy.

    Roedd Martyn Phillips wedi cyhoeddi ei fwriad i adael y swydd yn yr haf wedi pum mlynedd wrth y llyw, ond mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at ailfeddwl am y tro.

    martyn phillips
  8. Dim cynhadledd gan Boris Johnson am 17:00wedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Llywodraeth Cymru yn cau parciau carafanwedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mesurau newydd i arafu gwasgariad coronafeirws yng Nghymru.

    Bydd parciau carafan, meysydd gwersylla a lleoliadau eraill i dwristiaid yn cael eu cau o heddiw ymlaen.

    Roedd nifer o gwynion dros y penwythnos wrth i dorfeydd mawr o ymwelwyr gael eu gweld mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad, er y cyngor i deithio pan fo'n angenrheidiol yn unig.

    Ychwanegodd Mr Drakeford bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod tafarndai ynghau ledled Cymru yn dilyn adroddiadau bod rhai yn parhau ar agor er y canllawiau i beidio â gwneud hynny.

    Dywedodd Mr Drakeford bod unrhyw dafarndai sydd ar agor yn wynebu colli eu trwydded.

    Parc carafanFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Yr Urdd yn gofyn i'r llywodraeth am gymorth ariannolwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae cadeirydd Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau bod y mudiad mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cael cymorth ariannol.

    Daw hyn wedi i'r Urdd orfod cau eu gwersylloedd a chanslo'r Eisteddfod Genedlaethol yn sgil argyfwng coronafeirws

    Yn ôl Dyfrig Davies, sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr Urdd ,"amddiffyn a diogelu'r mudiad yw'r pwyslais ar gyfer y dyfodol a hefyd ein gweithlu".

    Aeth Mr Davies yn ei flaen i fynnu "y bydd yr Urdd yn para" ac y bydd yma i ddathlu'r canmlwydiant yn 2022.

    Ychwanegodd bod "gan y mudiad adnoddau wrth gefn am gyfnod byr - ond y bydd angen cymorth".

    Dyfrig Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Dyfrig Davies wedi bod yn gadeirydd ar yr Urdd ers 2017

  11. Parciau a meysydd chwarae Powys i gauwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Powys

    Bydd meysydd chwarae a pharciau Cyngor Powys yn cau heddiw er mwyn "atgyfnerthu rheolau cadw pellter cymdeithasol ac i osgoi lledaenu Covid-19".

    "Mae Powys, a chynghorau eraill ar draws Cymru wedi cymryd y penderfyniad – er budd iechyd y cyhoedd – i gau’r meysydd chwarae caeedig i blant a pharciau gwledig o dan ei reolaeth, o ddydd Llun 23 Mawrth tan i chi glywed ymhellach," meddai'r cyngor mewn datganiad.

    "Mae’n annog cynghorau tref a chymuned y sir i wneud yr un fath.

    "Bydd y 58 o feysydd chwarae a pharciau dan reolaeth y cyngor yn cael eu cloi a’u diogelu o heddiw ymlaen – gan godi arwyddion – tan fydd y sefyllfa’n newid."

  12. Mae pobl yn dal i gyrraeddwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Twitter

    Er fod Parc Cenedlaethol Eryri wrthi'n cau meysydd parcio ger llawer o safleoedd pwysig heddiw, mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi cael eu galw allan i gynorthwyo person oedd wedi dod i fynydd Tryfan o Birmingham.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. AS i ddychwelyd i'w swydd fel meddygwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i'w hen swydd fel doctor yn ystod argyfwng coronafeirws.

    Mae Dr Davies wedi bod yn feddyg cymwys ers 16 mlynedd, a bydd yn ailymuno â'r gwasanaeth iechyd dros doriad y Pasg.

    "Mae staff ein GIG yn gwneud gwaith anhygoel yn ystod y cyfnodau heriol yma ac rwy'n cymeradwyo pob un ohonyn nhw," meddai'r AS Ceidwadol.

    "Er hynny, mae'r system am gael ei ymestyn fwyfwy ac rwy'n teimlo dyletswydd i helpu. Fe fydda i felly yn dychwelyd i roi cymorth ble'n bosib."

    james daviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Logo newydd S4C yn annog ymbellhauwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    S4C

    Mae S4C - neu S 4 C bellach - wedi dylunio logo newydd gyda bylchau mwy rhwng y llythrennau er mwyn annog y cyhoedd i ymbellhau eu hunain yn gymdeithasol a chadw o leiaf dau fetr i ffwrdd o'i gilydd!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Parc Cenedlaethol Eryri yn cymryd camau i atal ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau eu bod yn cymryd camau er mwyn atal ymwelwyr i'r ardal "yn dilyn y penwythnos prysuraf ers cyn cof o ran ymwelwyr".

    Dywedon nhw y bydd eu prif feysydd parcio yn cau a'u bod yn "ymchwilio i bwerau i gau’r mynyddoedd a’r safleoedd mwyaf poblogaidd os bydd y sefyllfa‘n parhau".

    "Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa poblogaidd arall i aros adref ac ymarfer yn eu hardal leol," meddai'r awdurdod mewn datganiad.

    Dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Emyr Williams: "Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel.

    "Mae’n rhaid i ni felly ymateb yn gyflym er mwyn bod y mater yn cael ei ddatrys."

    Wyddfa
  16. Dim Sioe Fawr eleniwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020
    Newydd dorri

    Sioe Frenhinol Cymru

    Mewn datganiad, mae Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi na fydd y sioe'n cael ei chynnal eleni.

    "Gyda gofid mawr, oherwydd y sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (Covid-19), y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod Sioe Frenhinol Cymru 2020 wedi’i chanslo."

  17. Pen y Pass nawr ar gauwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Maes parcio Pen y Pass yw'r diweddaraf i gael ei gau er mwyn atal ymwelwyr.

    pen y pas
  18. Prif Gwnstabl yn galw am newid ymddygiadwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno yn y galwadau ar bobl i aros adre.

    Dywedodd fod llawer gormod o bobl mewn lleoliadau ar draws y gogledd dros y penwythnos, a bod angen gwneud mwy i warchod y gwasanaeth iechyd a phobl eraill.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Bangor yn codi gwrychyn wrth ymarferwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae dynes wedi cwyno wrth Glwb Pêl-droed Bangor wedi iddi weld chwaraewyr y clwb yn ymarfer ar gae yn Y Felinheli.

    Dywedodd Elenid Ifans fod y chwaraewyr wedi chwerthin ar ei phen ar ôl iddi esbonio eu bod yn anwybyddu cyngor ar ymbellhau cymdeithasol.

    Mae hi o’r farn fod y chwaraewyr yn ymarfer yn y pentre’ ar ôl iddyn nhw gael eu hatal rhag chwarae ar gaeau hyfforddi 3G y clwb ychydig filltiroedd i ffwrdd.

    Dywedodd fod y chwaraewyr, oedd yn cerdded o amgylch y pentref fel un criw, yn gosod esiampl wael i blant yn wyneb y cyngor presennol.

    Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn i Glwb Pêl-droed Bangor am ymateb.

    HyfforddiFfynhonnell y llun, Elenid Ifans
  20. Gohirio pêl-droed yn Sbaenwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Bydd y newyddion wrth gwrs yn effeithio ar brif sgoriwr Cymru, Gareth Bale - sy'n chwarae i Real Madrid.