Â鶹ԼÅÄ

Dwbl nifer y gigs ar ddau lwyfan ym Maes B eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Torf Maes B 2019Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Torf yn mwynhau Maes B Llanrwst yn 2019

Bydd dwywaith cymaint o fandiau na'r arfer ym Maes B eleni wrth i'r ŵyl gael dau lwyfan byw yn lle un.

Bydd llwyfan DJ yn yr ŵyl unwaith eto wrth i drefnwyr geisio helpu adfywio'r sin gerddoriaeth ar ôl effaith Covid-19.

Fel arfer, 16 o fandiau sy'n chwarae ar un o brif lwyfannau'r sin Gymraeg, ond yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron bydd tua 30 yn cael y cyfle.

Bydd dau lwyfan yn galluogi trefnwyr i fynd yn syth o un perfformiad byw i'r un nesaf heb ddisgwyl i'r cerddorion osod eu hoffer, a bydd llwyfan DJ ar wahân yn rhoi dewis o gerddoriaeth electroneg.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Maes B, sy'n rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol, heb ei chynnal ers 2019 - ac fe gafodd honno ei thorri'n fyr oherwydd y tywydd

Dywedodd Elan Evans, sy'n rhan o dîm Clwb Ifor Bach sy'n trefnu'r ŵyl ar ran yr Eisteddfod: "'Dan ni wedi colli'r gynulleidfa mwy na dim byd a roedden ni just yn teimlo 'maen nhw wedi colli Maes B hefyd', so doedd e dim ond yn deg bod ni yn rhoi parti go iawn 'mlaen iddyn nhw.

"Hefyd mae 'na gymaint o artistiaid sy'n eistedd ar albyms sydd ddim wedi cael eu clywed lot gan gynulleidfaoedd byw so roedden ni'n awyddus iawn i allu rhoi cyfleodd i fandiau, ond yn amlwg gydag un llwyfan ma'n dod â'r niferoedd ti'n gallu bwcio reit lawr."

Bydd rhestr o'r bandiau sy'n chwarae ym Maes B, fydd yn digwydd rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn 3-6 Awst, yn cael ei rhyddhau yn fuan.

Mae mwy ar y stori hon yn ein herthygl gylchgrawn: Maes B: 'Mae am fod yn fwy ac yn well eleni’