Â鶹ԼÅÄ

Bydd angen cymorth ar eich plentyn yn ystod yr arholiadau TGAU. Nid yn unig mae gan dîm Meddwl ar Waith gefnogaeth wych ar eu cyfer nhw - mae gyda ni awgrymiadau i rieni hefyd.

Rhieni - beth allwch chi wneud i helpu?

Amserlenni

Mae’n syniad da eistedd i lawr gyda’ch plentyn i greu’r amserlen adolygu gyda’ch gilydd. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i reoli eu hamser a gwneud y dasg o adolygu yn llawer llai brawychus. Mantais arall creu amserlen yw lleihau’r demtasiwn i'ch plentyn i aros lan tan oriau mân y bore yn adolygu. Cofiwch ei bod hi’n bwysig cynnwys amser i ymlacio yn yr amserlen hefyd.

Bwyd a diod

Mae hi'n bwysig bod eich plentyn yn bwyta'n iach ac eu bod nhw’n bwyta’n gyson - gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cael tri phryd y dydd. Peidiwch â gadael iddyn nhw hepgor brecwast, yn enwedig ar ddiwrnod yr arholiad. Gwnewch yn siŵr eu bod yn yfed digon o ddŵr ac yn bwyta digon o garbohydradau, ac atgoffwch nhw i beidio ag yfed gormod o gaffein!

Cyfathrebu

Daliwch ati i siarad gyda’ch plentyn, mae'r arholiadau'n gyfnod sy’n llawn straen, ac efallai eu bod yn teimlo'r pwysau. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod y gallan nhw siarad â chi, a byddwch yn galonogol ac yn gadarnhaol. Anogwch nhw i siarad â'u ffrindiau hefyd.

Gwobrwyo

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwobrwyo'ch plentyn am weithio'n galed. Gallwch chi eu tretio nhw i rywbeth bach fel bar siocled, neu fynd â nhw i rywle braf ar y penwythnos. Bydd unrhyw beth sy'n eu cymell yn helpu.

Peidiwch â gwthio yn rhy galed

Er bod pob rhiant yn gorfod gwthio eu plentyn i adolygu mae’n rhaid bod yn ofalus i beidio â gwthio yn rhy galed. Ceisiwch greu awyrgylch braf yn y tŷ. Ceisiwch dynnu eu meddwl oddi ar arholiadau yn ystod amser segur a chynnig digon o fwyd a diod iddyn nhw. Cofiwch fod eich plentyn eisiau gwneud yn dda - felly mae’n bwysig eich bod chi’n credu ynddyn nhw yn ogystal â’u gwthio.

Tips pellach

  • Peidiwch â siarad am arholiadau o hyd.
  • Ceisiwch helpu’n ymarferol, er enghraifft dod o hyd i adnoddau a chynnig profi eich plentyn.
  • Anogwch eich plentyn a’u canmol am waith da.
  • Cadwch lefelau sŵn y tŷ’n isel rhag amharu ar yr adolygu.
  • Mae cynnig paned bob yn hyn a hyn yn mynd yn bell!

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda , ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar Â鶹ԼÅÄ Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Meddwl ar Waith

Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.

Meddwl ar Waith

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau